Sir Benfro: Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Arberth
Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Arberth yn Sir Benfro ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad ar y B4313 am tua 15:10 ddydd Iau.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd llwyd Nissan Qashqai a beic modur Suzuki GSXR glas.
Bu farw gyrrwr y beic modur, sef dyn 51 oed, yn y fan a'r lle. Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Ni chafodd unrhyw anafiadau eraill eu hadrodd i'r heddlu, ac fe gafodd y ffordd ei chau tra bod ymholiadau yn parhau.
Cafodd y ffordd ei hail-agor fore Gwener am tua 03:00.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260716-302.
