‘Roeddwn wedi colli’r teimlad o pwy o’n i’: Profiad menyw o gael ei gwahanu oddi wrth ei brodyr a’i chwiorydd mewn gofal maeth

Llun: Cowshed
Maethu Cymru

Mae menyw a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei brodyr a’i chwiorydd ar ôl mynd i ofal maeth wedi dweud ei bod yn teimlo ei bod wedi “colli pwy” oedd hi.

Cafodd Sophia Warner, sydd bellach yn 30 oed, ei lleoli ddwy awr i ffwrdd oddi wrth ei theulu pan oedd yn blentyn, cyn colli cysylltiad â nhw dros y blynyddoedd.

Mae hi’n rhannu ei phrofiad wrth i Maethu Cymru, y rhwydwaith o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, nodi pum mlynedd ers ei sefydlu.

Yn ôl y rhwydwaith, mae 84% o blant mewn gofal awdurdodau lleol wedi gallu aros yn lleol dros y pum mlynedd diwethaf, o’i gymharu â 32% o blant gydag asiantaethau maethu masnachol.

Dim ond dwy oed oedd Sophia pan gafodd brofiad o ofal maeth am y tro cyntaf, cyn iddi fynd i leoliad parhaol yn wyth oed.

“Pan ti’n cael dy roi mewn gofal maeth, mae’n gallu bod yn frawychus. Gall achosi pryderon enfawr achos dwyt ti ddim yn gwybod i ble rwyt ti'n mynd na ble fyddi di,” meddai.

“Dwi dal i gofio'r teimlad o sefyll tu allan i ddrws ffrynt rhywun dieithr, ‘y nghalon i’n curo'n mor gyflym nes y gallen i ei glywed yn ‘y mhen.”

‘Angen bod yn blentyn’

Bu farw tad Sophia pan oedd hi’n bump oed.

Dywedodd nad oedd yn rhan fawr o’i bywyd, ond ei fod yn dreisgar ac yn gaeth i ddiod.

Ar ôl ei farwolaeth, roedd Sophia a’i brodyr a’i chwiorydd yn byw gyda’u mam, oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl.

“Doedd hi methu gofalu amdanon ni ac, wrth dyfu lan, fe welais i lot o bethau na ddylai plentyn byth eu gweld,” meddai.

“Ro’n i’n teimlo mod i jest angen bod yn blentyn am unwaith, a ddim bod yn ofalwr i fy mam geni, ro’n i angen normalrwydd yn fy mywyd.

“Do’n i methu gofalu am fy mam, dim ots faint ro’n i’n ei charu hi. Ro’n i angen magwraeth dda, dillad cynnes a chartref diogel.”

Ond ar ôl mynd i leoliad gofal maeth parhaol, cafodd Sophia ei gwahanu oddi wrth ei brodyr a’i chwiorydd.

“Ro’n i a fy siblingiaid wedi ein gwahanu a hynna oedd un o’r pethau anoddaf i fi byth fynd drwyddo,” meddai.

Image
Sophia Maethu Cymru
Llun: Cowshed

“Nhw oedd ‘y ngwreiddiau i, nhw oedd ‘y myd i a nhw oedd ‘yn angor i, ac achos eu bod nhw wedi’u gwahanu oddi wrthai, ro’n i’n teimlo fel ‘mod i wedi colli pwy o’n i.”

Roedd Sophia, sy’n wreiddiol o Aberhonddu ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn cwrdd â’i brodyr a’i chwiorydd bob wythnos i ddechrau.

Ond roedd yn dioddef o salwch teithio, a dywedodd y byddai’n treulio llawer o’r amser gyda nhw yn ceisio gwella ar ôl y daith.

Dros y blynyddoedd, daeth y cyfarfodydd i ben a chollodd Sophia gysylltiad â nhw.

“Fel unigolyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal, dwi mor falch o weld bod Maethu Cymru yn helpu plant i aros yn lleol,” meddai.

“Base hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi.”

Aros yn lleol

Sefydlwyd Maethu Cymru yn 2021 fel rhwydwaith dielw o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae’n canolbwyntio ar recriwtio a chadw gofalwyr maeth, yn ogystal â cheisio sicrhau bod plant yn gallu aros yn eu cymunedau lleol pan fydd hynny’n briodol.

Yn ôl y rhwydwaith, mae ei ofalwyr wedi darparu gofal i 5,954 o blant dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae hefyd yn dweud bod 704 o ofalwyr maeth newydd wedi’u recriwtio, gan ddarparu gofal lleol i fwy na 1,000 o blant.

Mae Sophia hefyd wedi croesawu cyflwyno The Big Welcome, sef proffil ar-lein lle gall teuluoedd maeth rannu gwybodaeth a lluniau gyda phlentyn cyn iddo gyrraedd y cartref.

Gall gynnwys lluniau o aelodau’r teulu, anifeiliaid anwes a’r cartref ei hun.

“Byddai rhywbeth fel porth The Big Welcome wedi bod o bwys i fi wrth dyfu lan,” meddai Sophia.

“Gweld wyneb cyn cyrraedd, clywed llais, gwybod un neu ddau beth am y bobl a'r cartref.

“Dyw e’ ddim yn cael gwafred o’r ofn yn llwyr, ond mae'n rhoi darlun cliriach i ti. Rhywbeth i gydio ynddo.”

Cafodd Sophia gefnogaeth gan ei theuluoedd maeth drwy gydol ei haddysg, cyn mynd ymlaen i ennill gradd israddedig a gradd MA mewn celf.

Mae’n dal yn agos at ei theulu maeth a’i brodyr a’i chwiorydd maeth.

Mae hi bellach yn gweithio fel gweithiwr preswyl plant ac fel darlunydd hunangyflogedig.

“Ces i brofiad da iawn wrth dyfu lan mewn gofal maeth. Ces i ddau deulu maeth anhygoel sydd wedi llunio fy myd ac wedi gwneud i fi gredu mwy yndda i fy hunan,” meddai.

“O’n i arfer teimlo lot o gywilydd wrth dyfu lan mewn gofal maeth, ond nawr wi’n ymfalchïo ynddo fe.

“Os y galla i oroesi hynna, gallai oroesi unrhyw beth. Ac mae wedi rhoi’r hyder i fi ffynnu yn y byd yn bendant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.