Y Sesiwn Fawr yn 'troi'r cloc yn ôl' i ffocysu mwy ar gerddoriaeth werin eleni
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn "troi'r cloc yn ôl" eleni a rhoi mwy o bwyslais ar gerddoriaeth werin, meddai un o sefydlwyr yr ŵyl.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 1992, a dros y 34 mlynedd diwethaf mae wedi tyfu a bellach yn cynnwys sawl llwyfan awyr agored a dan do..
Hefyd mae digwyddiadau eraill gan gynnwys sesiynau llên a chomedi yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y dref.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl, Ywain Myfyr y bydd pwyslais ar yr ochr werin eleni.
Bydd dros 70 o fysgwyr yn y dref ddydd Sadwrn yn perfformio ar "hyd a lled" y dref.
"'Dan ni’n dod o brofiad o drefnu gŵyl ers dros 30 mlynedd bellach, ac mae wedi esblygu o flwyddyn i flwyddyn," meddai.
"Mae hynny’n rhywbeth 'dan ni’n falch iawn ohono achos dwyt ti ddim yn gwella trwy wneud yr un peth, ond neud yr un peth yn wahanol.
"'Dan ni wedi ychwanegu, ar y dechrau gŵyl werin oedda ni, ac i ryw raddau rydym ni’n troi'r cloc yn ôl, achos mae gynnon ni dros 70 o fysgars yn dod i chwarae cerddoriaeth werin dydd Sadwrn.
"Mi fydda' nhw’n chwarae hyd a lled y dre’ a 'dan ni’n troi cynnig rhywbeth at ddant pawb."
Mae'r ŵyl, sydd yn para hyd at bedwar niwrnod, yn cychwyn nos Iau ac yn parhau tan ddydd Sul.
Eleni bydd dros 40 o artistiaid gan gynnwys Morgan Elwy, Aleighcia Scott a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio ar amryw lwyfannau yn y dref.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth hefyd yn bresennol mewn sesiwn holi ac ateb, gyda chomediwyr fel Fflur Harman a Carwyn Blayney yn diddanu yn ogystal.
Mae bron i bob tocyn i'r holl ddigwyddiadau wedi gwerthu, sydd yn brawf o lwyddiant yr ŵyl cyn iddi gychwyn, meddai Mr Myfyr.
"Mae'r paratoadau 'di mynd yn slic iawn hyd yma, mae gynnon ni griw da o weithwyr sy’n gwybod be' ma' nhw’n neud ac wedi hen arfer bellach," meddai.
"Roedd bob tocyn wedi i’w werthu ar gyfer yr eglwys nos Iau, mae’r tocynnau penwythnos a’r tocynnau dyddiol wedi mynd i gyd.
"O safbwynt yr ochr yna mae wedi bod yn lwyddiant yn barod cyn i’r ŵyl gychwyn.
"Ond wrth edrych 'nôl rydym ni eisiau bod pawb wedi mwynhau wrth gwrs."
Penblwydd
Blwyddyn nesaf fe fydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn dathlu ei phenblwydd yn 35 oed.
Mae Ywain Myfyr wedi gweld yr ŵyl yn datblygu dros y blynyddoedd, o brif lwyfan mewn maes parcio i dros 10 llwyfan ar draws y dref.
Er y bydd yr ŵyl yn myfyrio ar y gorffennol tra'n dathlu'r flwyddyn nesaf, mae edrych ymlaen yr un mor bwysig.
"'Dan ni mewn gwirionedd wedi meddwl rhyw lawer am flwyddyn nesa’, a ma' siŵr bydd rhaid i ni neud rhywbeth i ddathlu a nodi’r ffaith," dywedodd.
"Ma’n rhyfedd sbio nol rili achos ma' 35 mynedd allan o fywyd rhwyun yn dipyn o chunk i ddeud y gwir, ond rydym ni dal i wneud o, a dal yn mwynhau wrth gwrs.
"Ac yn sicr byddwn yn edrych 'nôl blwyddyn nesa' ond yn fwy pwysig yn edrych ymlaen at y dyfodol."