Criwiau yn ymateb i dân yng Nghaergybi ar Ynys Môn
Mae criwiau tân yn ymateb i dân yng Nghaergybi ar Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae ein timau ar hyn o bryd yn delio â thân ym Mhentrefelin, Caergybi.
"Rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd yn yr ardal gau eu ffenestri a'u drysau, os gwelwch yn dda.
"Unwaith y bydd y mwg wedi gwasgaru, agorwch y ffenestri a'r drysau i awyru eich eiddo."
Roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos fflamau'n ymledu ar draws tir gerllaw.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o danau y mae criwiau tân wedi ymateb iddynt ar draws Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gynnwys tân ger Bwlch Sychant yng Nghonwy, un arall yn Llanbedr ger Harlech, ac un mewn canolfan ailgylchu yn Llantrisant, ger Caerdydd.
Llun: Licence To Grill
