Sir Conwy: Cymuned yn cael ei 'rhwygo' gan bolisi cludiant ysgol y cyngor lleol

Newyddion S4C

Sir Conwy: Cymuned yn cael ei 'rhwygo' gan bolisi cludiant ysgol y cyngor lleol

Mae cymuned yn Sir Conwy’n cael ei “rhwygo” gan bolisi cludiant ysgol y cyngor lleol, medd trigolion. 

Ers blynyddoedd maith mae teuluoedd yn Llansannan wedi anfon eu plant i Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych. 

Ond mae rhieni’n dweud bod Cyngor Conwy’n rhoi’r gorau i ddarparu cludiant am ddim i’r ysgol honno, gan gynnig hynny’n unig i ddisgyblion sy’n teithio i Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst. 

Dywed Cyngor Conwy eu bod yn gweithredu eu polisi cludiant ysgol yn gyson ar draws y sir.

Mae merch i un fenyw lleol, Meryl Martin yn gorffen ym mlwyddyn chwech yn Ysgol Bro Aled, Llansannan yr wythnos hon. 

Cafodd wybod chwe mis yn ôl y buasai ei merch, Cadi, yn cael cludiant am ddim i Ysgol Glan Clwyd fis Medi, taith uniongyrchol ar fws o tua 45 munud. 

Mae Ms Martin wedi prynu gwisg i’r ysgol honno ond fis diwethaf cafodd wybod gan Gyngor Conwy eu bod wedi gwneud camgymeriad ac nad ydy’r teulu’n gymwys ar gyfer cludiant i Glan Clwyd wedi’r cyfan.  

“Oedd Cadi’n drist iawn.” meddai Ms Martin. 

“Mae’n newid enfawr i blentyn newid o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.”

“Roedd y newyddion yna’n dorcalonnus. Mae hi isio bod efo’i ffrindie.” 

“Mae rhai o’i ffrindie hi yn cael mynd ar y bws a rhai eraill ddim. Mae’n rhwygo Llansannan yn ei hanner.” 

Dechreuodd Ysgol Dyffryn Conwy newid i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn 2023 ac oherwydd hynny mae Cyngor Conwy yn dweud mai dyna’r ysgol Gymraeg agosaf at gartref Ms Martin - o rhyw 300 llath. 

Ond yn ôl Ms Martin mae’r daith i Lanrwst yn llawer llai hwylus, yn cyfuno tacsi a bws gan gymryd dros awr. 

Os am deithio ar y bws i Ysgol Glan Clwyd, bydd rhaid i deulu Cadi dalu pris gostyngol o tua £180 y flwyddyn. 

Image
Cadi
Cadi

Dywedodd merch Ms Martin, Cadi, ei bod hi wedi cael “sioc”.

Dywedodd Cadi ei bod hi’n teimlo’n “ofnus” ac yn poeni na fydd hi’n medru mynd i’r ysgol gyda’i chyfeillion. 

“Dwi’n gobiethio ‘neith y Cyngor wrando ar y complaints i gyd a rhoi’r bus pass yn ôl i’r rhai sydd wedi colli nhw.” meddai’r ferch. 

Rhiant arall sy’n bryderus ydy Trystan Roberts sydd â’i ferch hynaf yn Ysgol Glan Clwyd. 

Er ei bod hi’n derbyn cludiant am ddim, mae’r teulu’n poeni na fydd hynny ar gael i ddau blentyn ieuengaf y teulu gan eu bod wedi clywed y bydd newid ymhen pedair blynedd. 

Mae’n dweud bod y cyfathrebu gan y cyngor sir wedi bod yn “wael iawn”. 

“Mae plant yn mynd i syffro oherwydd hyn, a rhieni a’r gymuned hefyd.”

Image
Trystan Roberts
Trystan Roberts

Yn ôl Mr Roberts, gallai polisi’r cyngor danseilio’r ysgol gynradd yn Llansannan gan na fydd rhieni eisiau i’w plant gael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau wrth drosglwyddo i’r ysgol uwchradd. 

“Falle fydd rhieni yn y dyfodol ddim isio rhoi eu plant yn Ysgol Bro Aled.”

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn y gorffennol, mae’r cyngorydd lleol Cyng. Trystan Lewis yn dweud bod cysylliad â Sir Ddinbych ers “blynyddoedd mawr” a’i bod hi’n “naturiol” i blant y pentref fynd i Ysgol Glan Clwyd.

Tra’n gweld dadl y Cyngor Sir, mae’r Cyng. Lewis yn dweud ei fod yn “cydymdeimlo” gyda rhieni Llansannan. 

“Mae ‘na rwyg yn digwydd yn y pentre’ ‘ma,” meddai'r Cyng. Lewis. 

“Dwi’n siomedig yn y diffyg cyfathrebu. Dwi’n gobeithio y bydd Cyngor Conwy yn edrych ar y llwybr i Ysgol Dyffryn Conwy achos mae’n golygu bod rhai o’r plant yn mynd i fod yn cychwyn eu taith am 07.15. Lle mae edrych ar ôl lles digyblion?”

Mae’r Cyng. Lewis yn galw ar Gyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych i drafod gyda’i gilydd i ddatrys y sefyllfa. 

Mae Cyngor Conwy’n dweud eu bod wedi trafod gyda Chyngor Sir Ddinbych ac y bydd cludiant i Ysgol Glan Clwyd yn parhau i blant o Sir Conwy lle mai hi ydy’r ysgol agosaf i’r cartref. 

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Rydym yn deall bod hyn yn fater pwysig i deuluoedd.

“Mae cludiant ysgol i’r cartref yn cael ei asesu ynghyd â’n dyletswyddau statudol a pholisi’r Cyngor sy’n cael ei weithredu’n gyson ar draws y Sir.

“Rydym yn parhau i esbonio hyn i rieni ac aelodau etholedig ac i ystyried unrhyw bryderon.”

Doedd Cyngor Sir Ddinbych ddim am wneud sylw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.