Caerdydd: Cyhuddo dyn o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug mewn cysylltiad â gwrthdrawiad angheuol
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â gwrthdrawiad car a arweiniodd at farwolaethau tri o bobl ifanc ger Caerdydd yn 2023.
Mae Neil Lewis, 47 oed, wedi ei gyhuddo o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 21 Gorffennaf.
Mae'r drosedd mewn cysylltiad â phrawf MOT ar gyfer y cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad am tua 02:00 ar 4 Mawrth 2023 a arweiniodd at farwolaethau'r gyrrwr Rafel Jeanne a'r teithwyr Darcy Ross ac Eve Smith.
Daethpwyd o hyd iddynt bron i ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ychydig ar ôl hanner nos ar 6 Mawrth, mewn ardal goediog oddi ar yr A48, yn Llaneirwg.
Cafodd y drosedd ei nodi gan swyddogion oedd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad angheuol.
