Siom i Gymru ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd
Roedd hi'n noson siomedig i Gymru ar ôl gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd nos Wener.
Gyda'r gêm yn ddi-sgôr am y mwyafrif o'r hanner cyntaf, fe gafodd Gymru gic o'r smotyn ar ôl 38 munud gyda chyfle pwysig i fynd ar y blaen.
Fe sgoriodd Hannah Cain, gan olygu ei bod hi bellach wedi sgorio chwe gôl mewn pum gêm.
Cymru oedd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, a dyna oedd yr hanes am y mwyafrif o'r ail hanner hefyd, tan i Montenegro ddod yn gyfartal ar ôl 79 munud gyda gôl gan Jasna Djokovic.
Fe orffennodd y gêm yn gyfartal, gyda gôl hwyr y tîm cartref yn atal Cymru rhag gorffen y noson ar frig grŵp B1.
Dyma oedd eu gêm olaf ond un yn y cymal grwpiau, cyn i dîm Rhian Wilkinson chwarae yn y gemau ail-gyfle i geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd ym Mrasil y flwyddyn nesaf.
Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, ond bydd eu safle terfynol yn y grŵp yn effeithio ar bwy fydd y crysau cochion yn chwarae yn eu herbyn yn y gemau ail-gyfle.
Enillodd Cymru 6-1 yn erbyn Montenegro yn Llanelli ym mis Mawrth, gyda'r ferch o Drawsfynydd, Mared Griffiths, yn sgorio dwy gôl.
Fe gafodd Gymru drafferthion wrth geisio cyrraedd y wlad oherwydd tywydd gwael.
Nid oedd yr awyren oedd yn cludo'r chwaraewyr a'r staff yn gallu glanio yn y brifddinas, Podgorica, nos Iau oherwydd storm, ac roedd yn rhaid eu hailgyfeirio i Brindisi yn yr Eidal.
Fe lwyddodd y chwaraewyr i gael gwesty, ond roedd yn rhaid i'r rheolwr, Rhian Wilkinson, a rhai o'r staff hyfforddi gysgu yn y maes awyr.
Nos Iau fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddweud fod y garfan a hyfforddwyr wedi cyrraedd Podgorica yn ddiogel.
