Cyngor Gwynedd wedi gwario £465,000 ar bolisi aflwydiannus Erthygl 4

abersoch

Mae adroddiad newydd gan Gyngor Gwynedd yn amlinellu'r gost y mae'r cyngor wedi ei wario ar geisio gweithredu rheol Erthygl 4 ar ailgartrefi yn y sir.

Yn ôl yr adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Bwyllgor Craffu Cymunedau'r cyngor ddydd Iau nesaf, mae'r holl broses o geisio gweithredu'r polisi aflwyddiannus wedi costio cyfanswm o £465,654.63 i'r cyngor.

O'r cyfanswm yma, roedd £311,683.05 wedi’i ariannu drwy Grant Erthygl 4 Llywodraeth Cymru a £153,971.58 wedi’i ariannu drwy gyllid refeniw un-tro’r Cyngor.

Roedd y costau sy’n gysylltiedig â’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi cynnwys £325,618.94 o wariant ar staffio, £59,961.69 ar weinyddu’r broses, a £80,074.00 mewn costau cyfreithiol.

"Er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor adnoddau digonol i baratoi a gweithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn llwyddiannus, llwyddwyd i sicrhau grant o £402,330 gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Cyngor yn cyfrannu swm cyfatebol o £400,000 drwy gyllid refeniw un-tro", meddai'r adroddiad.

Rheoli'r defnydd o ail gartrefi

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd Gyfarwyddyd Erthygl 4 ym mis Medi 2024, a hynny "fel modd o reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau".

O ganlyniad roedd angen caniatâd cynllunio ar berchennog eiddo cyn ei newid yn ail gartref neu lety gwyliau.

Ond daeth barnwr yn yr Uchel Lys i'r canlyniad ym mis Medi 2025 fod y cais cyfreithiol gan ymgyrchwyr i wrthwynebu penderfyniad y Cyngor i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn llwyddo, gan nad oedd y wybodaeth gywir wedi ei chyflwyno i gabinet y cyngor wrth baratoi'r gwaith o weithredu'r cynllun.

Ar 27 Tachwedd 2025, yn ystod gwrandawiad yn yr Uchel Lys ac yn dilyn y dyfarniad blaenorol ym mis Medi, cadarnhaodd yr Ustus Eyre orchymyn i ddiddymu Cyfarwyddyd Erthygl 4. 

Ym mis Chwefror eleni daeth penderfyniad gan y Llys Apêl yn gwrthod cais ysgrifenedig gan y cyngor i apelio penderfyniad yr Uchel Lys.

O ganlyniad, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi’i ddiddymu yn y sir ac nid yw bellach yn cael ei weithredu.

Gwersi i'w dysgu

Wrth ystyried yr hyn yr oedd modd ei ddysgu o'r holl brofiad, dywedodd awduron yr adroddiad, sef Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, fod "yna ddiffyg canllawiau manwl o ran tystiolaeth a ddylid ei gasglu er mwyn cyfiawnhau cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, yn enwedig o ystyried yr ardal daearyddol eang berthnasol".

Ychwanegodd yr awduron: "Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu a meithrin sgiliau ac arbenigedd penodol o fewn y maes gwaith hyn, ac yn sgil hynny wedi gallu rhannu profiadau a dogfennaeth gyda awdurdodau eraill gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. 

"Roedd rhannu adnoddau, tystiolaeth cefndirol a gwersi efo Awdurdodau eraill yn rhan o’r termau a wnaed gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer eu cefnogaeth ariannol. 

"Mae’r sgiliau a arbenigedd sydd wedi ei feithrin drwy’r broses o baratoi’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol, ac yn sgiliau y gellir ei drosglwyddo i brosiectau eraill perthnasol yn y dyfodol." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.