Marwolaethau padlfyrddio: Gwrthod apêl i gwtogi dedfryd o 10 mlynedd o garchar

Nerys Lloyd

Mae cyn-berchennog cwmni padlfyrddio wedi cael gwrthod caniatâd i apelio yn erbyn ei dedfryd ar ôl achosi marwolaethau pedwar o bobl ar afon yn Sir Benfro.

Fe wnaeth Nerys Bethan Lloyd, 39, cyn-swyddog heddlu o Bort Talbot, bledio’n euog i ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol yn yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mawrth 2025.

Bu farw tri o'r padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar Afon Cleddau yn Hwlffordd, ar 30 Hydref 2024.

Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach. 

Fe gafodd Nerys Bethan Lloyd ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis ym mis Ebrill.

Ddydd Gwener fe wrthododd tri barnwr yn y Llys Apêl gyflwyniadau David Elias KC bod y ddedfryd yn “ormodol”.

Nerys Lloyd oedd perchennog ac unig gyfarwyddwr Salty Dog Co Ltd, a drefnodd y daith padlfyrddio ar ddiwrnod y marwolaethau.

Roedd Lloyd yn gweithredu fel hyfforddwr ar ddiwrnod y digwyddiad ochr yn ochr â Mr O’Dwyer, a gafodd ei ladd.

Roedd llifogydd trwm wedi bod ar y diwrnod, gyda’r afon yn rhedeg yn gyflym a rhybuddion tywydd yn eu lle.

Fe wnaeth pedwar o bobl oroesi'r digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.