'Siarad â ffrindiau am ganser' yn ysgogi merch 11 oed i drefnu digwyddiad codi arian
'Siarad â ffrindiau am ganser' yn ysgogi merch 11 oed i drefnu digwyddiad codi arian
Fe wnaeth "siarad â ffrindiau" ysgogi merch 11 oed i drefnu digwyddiad codi arian yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd gan bod ei mam yn byw â chanser.
Cafodd mam Sofia, Sarah, ddiagnosis o ganser y flwyddyn diwethaf.
Cyn y Nadolig y llynedd, fe gafodd Sarah wybod gan y meddygon fod y canser wedi dychwelyd, ac ei fod y tro hwn yn ei hysgyfaint.
Mae Sofia wedi trefnu Gŵyl Traws Gwlad ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol ar 26 Mawrth a hynny er mwyn codi arian at Ganolfan Ganser Felindre a Chanolfan Maggie's yng Nghaerdydd.
"Bydd hyn byth wedi digwydd os dwi ddim wedi siarad i unrhyw un am e," meddai Sofia wrth Newyddion S4C.
Mae Sofia, Mali ac Elsi wedi bod trefnu a chyflwyno gwasanaeth i bob blwyddyn yn yr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad, a'r rhesymau y tu ôl i drefnu.
"Ni 'di bod yn cyflwyno popeth ni am fod yn neud, sut mae'n mynd i ddigwydd, pam ni'n neud e," meddai Sofia.
Fe fydd stondinau yn rhan o'r digwyddiad hefyd, gyda'r holl ddisgyblion yn rhedeg y trawsgwlad yng nghanol y dydd.
Ychwanegodd Sofia: "Fydd hi fel breuddwyd yn dod yn wir os galla i roi rywbeth yn ôl i'r elusennau i ddangos pa mor ddiolchgar ydw i.
"Ma' Mam bob amser yn dweud i fi faint mor prowd hi yn o fi."
Ychwanegodd Elsi: "Mae’n rywbeth dda i cefnogi teuluoedd fel teulu Sofia hefyd, a ma’ ‘na 1,500 o bobl yn yr ysgol a ma’ llawer o nhw hefyd yn mynd trwy’r cyfnodau anodd o rywun yn eu teulu sydd gyda rywun sydd gyda cancr, a ma’ hwn yn mynd i helpu llawer o bobl."
Siarad am ei theimladau gyda'i ffrindiau wnaeth ysgogi Sofia i drefnu digwyddiad o'r fath.
"Fi’n cofio syth bin pryd ma’ hyn wedi digwydd, fi ‘di siarad i dau o ffrindie fi, Elsi a Mali," meddai.
Ychwanegodd Mali: "Dwi’n gw’bod un peth, oedd hyn wedi helpu Sofia lot, a dwi’n meddwl ma’n gallu helpu lot o pobl eraill os ma’ nhw’n siarad.
"Byse hyn heb ‘di digwydd os oedden ni ddim ’di siarad. Weithie ma’n rili dda os chi’n gw’bod chi efo ffrindiau sydd yna i jyst gwrando."
Mae Sofia yn hynod ddiolchgar o'i ffrindiau a'r gefnogaeth y maen nhw wedi ei rhoi iddi fel ffrindiau ac wrth drefnu'r digwyddiad ar y cyd.
"Fi mor falch fi’n cael nhw fel ffrindiau, ma’ nhw fel y ffrindiau gorau, ni mor agos," meddai.
"Ma’ popeth ddim ond wedi digwydd oherwydd ma’ nhw wedi dod lan a dweud ‘Ni eisiau helpu ti’ so heb nhw, bydd ni ddim yn neud hyn."
Mae Elusen Canser Felindre yn cynnig cymorth i tua 500,000 o bobl bob blwyddyn, sy'n cynnwys cleifion a theuluoedd er mwyn darparu gwasanaethau arbenigol a chymorth emosiynol iddynt.
'Prowd iawn'
Dywedodd Elin Murphy, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Elusen Canser Felindre wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n "browd iawn o Sofia.
"Ma' hi 'di neud jobyn arbennig yn codi'r arian, siarad am y cymorth mae hi yn bersonol wedi ei gael ac am blentyn sydd yn 11 oed, ma' fe'n gamp a ma'r brwdfrydedd sydd ganddi i neud rywbeth positif mewn cyfnod caled iddi yn anhygoel, mae'n ferch ddewr iawn."
Ychwanegodd: "Ma' llawer o bethau ni'n cyllido o fewn yr elusen yn gymorth i blant a theuluoedd, fel nyrs arbenigol, ni sy'n darparu'r gwasanaeth yna a ma'r nyrs yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar driniaethau, effeithiau a gofal dilynol a hefyd llyfrau plant sy'n esbonio mewn ffordd addas y broses o dderbyn triniaeth.
"Mae'n bwysig iawn bod ni'n ffindo ffordd i esbonio ac i ddelio gyda sefyllfaoedd canser i blant."
Mae Canolfan Maggie's yng Nghaerdydd yn ganolfan sydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol i bobl sy'n byw â chanser a'u hanwyliaid.
Mae modd i unrhyw aelod o'r cyhoedd ddefnyddio'r ganolfan ac mae'n cefnogi tua 300 o bobl yr wythnos, gan gynnwys cleifion yn ogystal â'u ffrindiau a'u teuluoedd.
'Mor ddiolchgar'
Dywedodd Rachael Davies, Rheolwr Codi Arian Canolfan Maggie's yng Nghaerdydd, wrth Newyddion S4C: "Nid dim ond y person sydd yn byw â chanser sydd gan bryderon, mae eu hanwyliaid yn teimlo'r teimladau hynny hefyd.
"'Dyn ni mor ddiolchgar i Sofia a'i ffrindiau. I fod yn wynebu amser mor anodd ond i fod eisiau gwneud rhywbeth positif i ddweud diolch, ma' hynny mor arbennig.
"Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Maggie's yn rhad ac am ddim felly 'dyn ni'n dibynnu ar haelioni ein cymunedau lleol i ariannu'r ganolfan felly i gael rhywun mor ifanc â Sofia yn gwneud hyn, 'dyn ni mor ddiolchgar ac mae'n golygu cymaint i ni."
