She Ultra: Trefnwyr am 'adolygu' rhai trefniadau ar gyfer dyfodol y ras

She Ultra 2026

Mae trefnwyr ras She Ultra ym Mhen Llŷn wedi cydnabod rhai o’r heriau a wynebwyd wrth drefnu’r digwyddiad eleni.

Roedd tua 2,500 o ferched wedi cymryd rhan yn y ras 50km oedd yn dechrau ac yn gorffen ym Mhwllheli'r penwythnos diwethaf.

Roedd yn rhaid i drefnwyr addasu llwybr y ras ‘sawl wythnos ymlaen llaw’, oherwydd bod rhannau o’r llwybr arfordirol “wedi mynd yn drwm o dan ddŵr, gyda rhai mannau o erydiad yn peri risg bosibl.”

Fe wnaeth tywydd garw ar y dydd hefyd gyfrannu at yr amodau heriol, gyda glaw a chenllysg yn gwneud rhannau o’r llwybr yn anodd i'w ddefnyddio.

Image
She Ultra
Roedd tua 2,500 o fenywod yn rhan o ras She Ultra ym Mhen Llŷn

Ar ddydd Gwener, roedd 18 rhan o'r llwybr arfordirol ar gau ar draws Cymru oherwydd gwahanol resymau.

Roedd tirlithriadau, amodau peryglus dan draed ac mewn un achos, llyncdwll, ger Llangwnnadl ym Mhen Llŷn, ymhlith y rhesymau dros gau’r llwybr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rhannu cyfrifoldeb gydag awdurdodau lleol am gynnal a chadw’r llwybrau, wedi cynghori cerddwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn ymweld ag unrhyw ran o’r llwybr ar hyn o bryd.

‘Addasiadau’

Mewn datganiad, dywedodd trefnwyr y 'She Ultra': “Fel unrhyw ddigwyddiad awyr agored ar raddfa fawr sy’n gweithredu ar dir arfordirol a gwledig, bu angen gwneud addasiadau oherwydd glaw parhaus a hirfaith yn arwain at y digwyddiad.

“Gwnaed newid i’r llwybr sawl wythnos ymlaen llaw oherwydd bod rhannau o’r llwybr arfordirol wedi mynd yn drwm dan ddŵr, gyda rhai mannau o erydiad yn peri risg bosibl.

Image
She Ultra
Roedd tagfeydd mewn rhai mannau o'r ras

“Gwnaed addasiad rhagofalus pellach ar y diwrnod ei hun er mwyn sicrhau diogelwch y cyfranogwyr mewn rhan wledig a oedd wedi’i heffeithio gan y tywydd garw.

Dywedwyd hefyd nad oedd modd gadael i’r rhedwyr ddechrau’r ras mewn tonnau wedi’u rheoli, fel y cynlluniwyd, gan nad oedd rhwystrau torf. Fe wnaeth hyn “arwain at ddechrau mwy cryno nag oedd wedi’i gynllunio.”

“Bydd hyn yn cael ei adolygu’n llawn er mwyn sicrhau profiad llyfnach yn y dyfodol,” meddai trefnwyr y fenter.

'Digwyddiad grymusol'

Cafodd rhai o’r cyfleusterau oedd wedi’u lleoli ar ddiwedd y ras hefyd eu “canslo” oherwydd yr amodau heriol.

Mae rhai rhedwyr hefyd wedi crybwyll bod yn rhaid iddyn nhw i ddisgwyl mewn tagfeydd am gyfnodau hir yn ystod y ras wrth i bobl ddisgwyl mynd drwy giatiau ar hyd llwybr y digwyddiad.

Ychwanegwyd: “Mae natur digwyddiadau llwybr yn golygu y gall rhai adrannau — yn enwedig gatiau, camfeydd, a llwybrau cul — greu mannau tagfeydd dros dro.

“Caiff y rhain eu rheoli mor effeithiol â phosibl o fewn y dirwedd, a byddwn yn parhau i adolygu’r ardaloedd hyn fel rhan o’n proses ôl-ddigwyddiad.

Image
She Ultra

“O ran y profiad gorffen, oherwydd gwaethygu’r tywydd, cafodd y pentref digwyddiad awyr agored a gynlluniwyd - gan gynnwys stondinau a gazebos - eu canslo fel mesur o ddiogelwch.

“Er bod hyn wedi newid yr awyrgylch wrth y llinell derfyn, gwnaed y penderfyniad er lles diogelwch y cyfranogwyr a’r cyhoedd.”

“Yn ogystal ag unrhyw bryderon a godwyd, rydym hefyd wedi derbyn nifer sylweddol o adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr, gyda llawer yn disgrifio’r digwyddiad fel un cefnogol, grymusol, a bywyd-newidiol.

“Nid digwyddiad yn unig yw'r SheUltra - mae’n dod ag effaith gadarnhaol sylweddol i’r ardal leol, gan gefnogi busnesau lleol, darparwyr llety, a mentrau cymunedol.

“Byddem bob amser yn gobeithio y bydd unrhyw sylw yn adlewyrchu adborth y cyfranogwyr yn ogystal â chyd-destun ehangach pwrpas ac effaith y digwyddiad.

Image
Map Llwybr
Roedd 18 rhan o Lwybr Arfordir Cymru ar gau ddydd Gwener (Llun: Lwybr Arfordir Cymru)

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae'r llwybr yn cael ei effeithio am amryw o resymau e.e. gwaith amgylcheddol, iechyd a diogelwch. Caiff problemau eu codi trwy amryw o sianeli a'u monitro yn unol â hynny.

“Gall cerddwyr gynllunio eu hymweliad trwy wybod beth i'w ddisgwyl a beth y gallant ei wneud a bod yn hyblyg rhag ofn y bydd cynlluniau'n newid. 

“Bydd darganfod mwy am y llwybr ymlaen llaw a chyfeirio at fapiau, canllawiau a gwefannau cyfredol, amodau tywydd a llanw hefyd yn ddefnyddiol.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.