Caerdydd: 12 arf wedi eu canfod mewn ysgolion mewn chwe mis
Caerdydd: 12 arf wedi eu canfod mewn ysgolion mewn chwe mis
Cafodd 12 arf eu canfod ymhlith disgyblion ysgol Caerdydd mewn cyfnod o chwe mis, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhannu â Newyddion S4C.
Mae'r ffigyrau, sydd yn cyfateb i ganfod un arf ymhlith disgyblion ysgol y brifddinas bob pythefnos yn "frawychus" yn ôl undeb NASUWT.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod sicrhau diogelwch staff a disgyblion ar safleoedd addysg yn flaenoriaeth.
Ym mis Medi y llynedd, fe gyflwynodd Cyngor Caerdydd ganllawiau newydd ar arfau mewn ysgolion a safleoedd addysgu fel rhan o'u cynlluniau i gadw pobl ifanc a gweithwyr yn ddiogel.
Fel rhan o'r cynlluniau rheiny, cyflwynwyd sganwyr llaw i bob ysgol drwy'r sir sydd yn galluogi gweithwyr i archwilio unrhyw un maen nhw'n amau o fod ag arf yn eu meddiant.
Wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, fe ddywedodd Cyngor Caerdydd i 19 o archwiliadau am arfau gael eu cynnal yn ysgolion y sir rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026. Chafodd dim arf ei ganfod mewn saith o'r archwiliadau yma.
Disgrifiodd Sion Amlyn, swyddog achos a pholisi undeb athrawon NASUWT y ffigyrau fel rhai "brawychus".
"Petasai un arf yn cael ei ganfod, mae o'n un yn ormod, felly mae'r ffaith... bod hyn yn ymddangos ar gynnydd yn frawychus....[a'r] ffaith eu bod nhw'n niferus yn bryderus," meddai.
"Ddylai dim arfau fod yn ein ysgolion ni, maen nhw fod yn llefydd diogel i’n plant ac i’n staff ac mae’r ffigurau yma’n awgrymu efallai eu bod nhw ddim."
Mae Millie-Mae Adams yn hyfforddi i fod yn feddyg ac yn gwirfoddoli gydag elusen Street Doctors, sydd yn addysgu pobl ifanc am beryglon cario arfau.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Bydd y rhif yna yn synnu pobl yn gyffredinol, ond wrth siarad a phobl ifanc, dyw e ddim yn synnu fi.
"Fi'n gwbod bod pobl ifanc a'r syniad eu bod nhw am amddiffyn eu hunain wrth gario fe [arf] ond dyw hynny ddim yn wir."
Yn ôl Millie, gafodd ei magu yn y brifddinas, roedd trais a bygythiad trais yn un o'r rhesymau iddi benderfynu hyfforddi fel meddyg.
Mae'n gobeithio bod ei gwaith gyda Street Doctors yn dwyn perswad ar bobl ifainc i beidio â chario arfau.
"Fi'n credu byse'r rhif yna lot mwy os byddech chi'n edrych ar bob ysgol yng Nghymru...ar y strydoedd mae pobl yn cario arfau a chyllyll," meddai.
"Mae'n argyfwng i fywyd ac felly mae'n broblem fawr."
Mewn ymateb i gwestiynau Newyddion S4C, cadarnhaodd Cyngor Caerdydd na chafodd unrhyw un eu gwahardd yn barhaol mewn cysylltiad a'r 19 archwiliad a chanfod 12 arf mewn ysgolion.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd nad "cynnydd mewn digwyddiadau sydd dan sylw" gan ddweud yn hytrach bod "angen i ysgolion fod yn barod a chael cefnogaeth rhag ofn bod digwyddiad yn codi".
Yn ôl y cyngor, mae eu cynlluniau i ganfod ac atal defnyddio arfau mewn ysgolion wedi eu "datblygu ynghyd ag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys Heddlu'r De, undebau llafur, gwasanaethau ieuenctid ac arbenigwyr atal trais i leihau risg... atal niwed a rhoi sicrwydd i deuluoedd bod ysgolion yn llefydd diogel a chefnogol."