Iran yn ailagor Culfor Hormuz am weddill y cadoediad

Cyfarfod ym Mhalas Elysee ym mis Ebrill 2026

Mae Iran wedi ailagor Culfor Hormuz i longau masnachol am weddill cyfnod y cadoediad, yn ôl gweinidog tramor y wlad.

Fe wnaeth Iran gau'r culfor hanfodol ar ddechrau mis Mawrth yn dilyn ymosodiadau gan America ac Israel, gan arwain at brisiau ynni a thanwydd i gynyddu'n gyflym ar draws y byd.

Fe arweiniodd y newyddion am ailagor y culfor at brisiau olew i ostwng yn sydyn yn sgil y disgwyliad y bydd mwy o gyflenwad os gall tanceri hwylio drwodd.

Gostyngodd pris olew crai fwy na 10% i ychydig dros $89 y gasgen brynhawn Gwener, gyda marchnadoedd stoc ar draws Ewrop hefyd yn codi.

Daeth y cyhoeddiad am ailagor y culfor wrth i Syr Keir Starmer ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron gynnal cyfarfod ym Mharis gyda'r nod o ddiogelu llif masnach drwy'r culfor unwaith y bydd y rhyfel yn y Dwyrain Canol yn dod i ben.

Mae America ac Iran yng nghanol cadoediad sydd i fod i bara tan 22 Ebrill, tra bod Israel a Libanus wedi dechrau cadoediad 10 diwrnod.

Dywedodd gweinidog tramor Iran, Abbas Araghchi: "Yn unol â’r cadoediad yn Lebanon, mae’r daith i bob llong fasnachol drwy Gulfor Hormuz wedi’i datgan yn gwbl agored am weddill cyfnod y cadoediad, ar y llwybr cydlynol fel y’i cyhoeddwyd eisoes gan Sefydliad Porthladdoedd a Morwrol Gweriniaeth Islamaidd Iran."

Mae Arlywydd America, Donald Trump yn dweud fod Iran wedi cyhoeddi bod "culfor Iran" yn "hollol agored".

Ond dywedodd y byddai blocâd yr Unol Daleithiau o borthladdoedd Iran yn parhau "mewn grym llawn" nes "bod ein cytundeb ag Iran 100% wedi’i gwblhau".

Daw'r newyddion wrth i Syr Keir addo gwneud "popeth yn fy ngallu" i ailagor y culfor wrth iddo ymuno â thrafodaethau rhyngwladol ym Mharis ddydd Gwener, sy'n eithrio'r Unol Daleithiau, Israel ac Iran.

Mae'r cyfarfod ym Mhalas yr Elysée yn dod â 40 o wledydd a'r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol ynghyd i lunio cynlluniau ar gyfer cenhadaeth ryngwladol i amddiffyn rhyddid mordwyo.

"Mae’n bwysig iawn ein bod yn adeiladu clymblaid o wledydd o amgylch yr egwyddor y dylai’r cadoediad fod yn barhaol, y dylai fod cytundeb, a bod Culfor Hormuz ar agor," meddai Syr Keir.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.