Saith wedi eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ym Mhowys

A44

Fe gafodd saith o bobl eu cludo i’r ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys ddydd Llun.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 13.28 wedi adroddiad am wrthdrawiad ar yr A44 ger Llanandras (Presteigne) ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Roedd Suzuki Jimny gwyrdd a Renault Megane llwydfelyn (beige) yn rhan o’r gwrthdrawiad.

Dywedodd yr heddlu nad oedd yr anafiadau yn peryglu bywydau y bobl a gafodd eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd ffordd yr A44 ei chau rhwng Pen-y-bont a Maesyfed tua 21.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.