S4C yn canslo drama am y pedoffeil Neil Foden gan 'ymddiheuro am y gofid a achoswyd'
Mae S4C wedi cyhoeddi na fydd yn parhau â chynhyrchiad cyfres ddrama gyda'r teitl gweithredol 'Y Pennaeth' am y cyn-brifathro a'r troseddwr rhyw, Neil Foden.
Roedd y ddrama wedi bwriadu "archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd" i atal Foden cyn ei droseddu.
Roedd nifer wedi beirniadu'r penderfyniad i gomisiynu'r ddrama, gyda rhai yn dweud ei bod yn rhy fuan wedi'r achos llys.
Ac roedd pryderon y gallai hynny achosi poen meddwl pellach i'r dioddefwyr a'r gymuned yn lleol.
Wrth gyhoeddi'r newyddion fod y ddrama wedi ei chanslo, dywedodd S4C ddydd Mercher nad oedd yn briodol bwrw ymlaen â'r cynhyrchiad, a'u bod " yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd."
Cafodd y cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched yn rhywiol.
Yn 2025, daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i'w atal rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd S4C: "Mae gan S4C rôl bwysig wrth adrodd straeon sy’n taflu goleuni ar faterion o fudd cyhoeddus.
"Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth ofalus, rydym wedi dod i’r casgliad na fyddai’n briodol mynd ymlaen â’r gyfres ddrama Y Pennaeth.
"Lles y rhai a effeithiwyd gan y digwyddiadau hyn yw ein prif flaenoriaeth.
"Penderfyniad S4C yw hwn, ac rydym yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd.
"Er parch at breifatrwydd y rhai a effeithiwyd, ni fyddwn yn gwneud sylw pellach."
Cyhoeddodd S4C dros yr haf eu bod wedi comisiynu cyfres ddrama dair-rhan gyda'r teitl gweithredol Y Pennaeth.
Dywedodd y sianel ar y pryd y byddai'r ddrama yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwraig, Jan Pickles.
Ychwanegod S4C bryd hynny y byddai'r gyfres yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch oedd wedi eu cam-drin.
Roedd y cymeriadau hyn, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol.
Mark Lewis Jones oedd yn mynd i fod yn portreadu Foden.
