Rygbi: Cymru'n wynebu her a hanner wrth groesawu Seland Newydd i Gaerdydd

Rygbi: Cymru'n wynebu her a hanner wrth groesawu Seland Newydd i Gaerdydd

Fe fydd tîm rygbi Cymru'n wynebu her a hanner yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn, wrth wynebu Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Fe gafodd y crysau cochion hwb i'w hyder yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Japan o 28 - 21 union wythnos yn ôl, ond fe fydd yr her yn erbyn y crysau duon yn dalcen dipyn caletach.

Nid yw Cymru wedi curo'r crysau duon ers 73 o flynyddoedd.

Bydd Adam Beard yn dychwelyd i dîm Cymru ar gyfer y gêm. Yn y rhes gefn, mae Taine Basham yn dechrau yn safle Rhif 8, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024. 

Mae James Botham wedi’i enwi fel blaenasgellwr ochr dywyll, tra bod Jac Morgan yn parhau yn safle Rhif 6.

Mae Seland Newydd wedi rhybuddio cyn y gêm mai eu bwriad yw ffrwyno bygythiad Morgan, gan ddweud fod ei gyfraniad i Gymru'n un hanfodol.

Mae un newid i linell gefn Cymru, gyda Gabriel Hamer-Webb yn dod i mewn ar yr asgell ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. 

Ymysg eilyddion Cymru, mae Gareth Thomas a Taine Plumtree hefyd yn barod i wneud eu hymddangosiadau cyntaf yn y gystadleuaeth.

Mae nifer o newidiadau i dîm Seland Newydd wedi eu cyhoeddi hefyd gan eu prif hyfforddwr Dave Rennie.

Beauden Barrett fydd capten y crysau duon am y tro cyntaf, gyda'i frawd Scott yn chwarae fel clo.

Mae'r tîm yn cynnwys 10 newid i'r garfan o 23 a wynebodd yr Alban y penwythnos diwethaf, gydag wyth ohonynt yn dechrau brynhawn Sadwrn. 

Fe fydd modd gwylio'r gêm yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer - gyda'r gic gyntaf am 14:10.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.