Rygbi: Cannoedd o achosion llys anafiadau pen i barhau wedi dyfarniad

pel rygbi

Mae barnwr wedi gwrthod cais gan yr awdurdodau rygbi i atal cannoedd o chwaraewyr rhag mynd â nhw i’r llys ynghylch honiadau eu bod wedi derbyn anafiadau i’w hymennydd yn ystod eu gyrfa.

Mae Undeb Rygbi Cymru a World Rugby ymhlith y cyrff sy’n rhan o’r achos yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Ddydd Gwener, dyfarnodd barnwr bod gan tua 500 achwynydd, sy’n honni bod gweinyddwyr y gêm wedi methu â’u hamddiffyn rhag anafiadau, yr hawl i barhau â’u hachosion a mynd â’r awdurdodau i dreial.

Roedd y sefydliadau, sydd hefyd yn cynnwys undeb rygbi Lloegr a chyrff rygbi’r gynghrair, wedi dadlau bod cyfreithwyr yr achwynwyr wedi methu â chydymffurfio â gorchmynion llys.

Mae’r achosion yn rhan o gasgliad ehangach o achosion cyfreithiol gafodd eu cyflwyno gan gyn-chwaraewyr proffesiynol ac amatur. 

Yn ôl cyfreithwyr y chwaraewyr, mae’r athletwyr wedi dioddef anafiadau niwrolegol fel dementia, Parkinson’s ac epilepsi oherwydd trawiadau cyson i'r pen ar y maes rygbi.

Maen nhw'n dadlau bod gan gyrff gweinyddol y gamp y wybodaeth a’r adnoddau i amgyffred y risg o niwed i’r ymennydd ar y pryd, ond eu bod wedi methu â chymryd camau i fynd i’r afael â hynny ac heb rhoi gwybod i’r chwaraewyr.

Gwadu’r honiadau mae pob un o’r cyrff.

Beth ddywedodd y barnwr?

Roedd yr awdurdodau rygbi wedi dadlau bod cyfreithwyr y chwaraewyr wedi methu ag ymateb yn amserol i orchmynion llys, oedd yn cynnwys gorfodaeth i gyflwyno dogfennau ac asesiadau meddygol, ac felly y dylai tua 500 o achosion gael eu diddymu.

Ond yn ei ddyfarniad ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr David Cook y byddai’n gadael i’r achosion fynd i dreial, gan nodi serch hynny ei fod yn gwneud ei benderfyniad “gyda rhywfaint o betrusdod” yn sgil yr oedi blaenorol.

Dywedodd mai nid bai’r chwaraewyr oedd methiannau eu cyfreithwyr ac ychwanegodd bod gan y cyn-athletwyr dîm cyfreithiol newydd erbyn hyn.

Mae “amgylchiadau arbennig” i’r achos, meddai, gan ddweud fod ‘na “arwyddocâd cyhoeddus tu hwnt i’r hawliadau unigol".

Fe allai’r achosion “effeithio’n fawr ar y ffordd y mae un o’n campau cenedlaethol yn cael eu cynnal ar lefel amatur a phroffesiynol,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “cydnabod yr oedi a’r costau di-angen” yn yr achos hyd yn hyn, dywedodd bod modd lliniaru’r oedi yn y dyfodol “drwy reolaeth dynn dros yr achos".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.