Chwe dyn yn gwadu troseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant yn y de
Mae chwe dyn wedi gwadu troseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant yn ne Cymru.
Cafodd naw dyn rhwng 54 a 76 oed eu harestio ym mis Gorffennaf fel rhan o ymchwiliad i adroddiadau gan fenywod am gamdriniaeth rywiol pan oedden nhw'n blant rhwng 1985 a 1996.
Mae'r diffynyddion, pob un ohonynt yn ddinasyddion Prydeinig, wedi ymddangos yn Llys y Goron, Caerdydd ddydd Gwener.
Plediodd chwech ohonynt yn ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Ni fydd y dynion yn wynebu achos llys tan fis Ionawr 2028.
Clywodd y llys fod disgwyl i'r achos barhau hyd at 20 wythnos.
Plediodd y canlynol yn ddieuog:
- Shafaq Mohammed, 58 oed, o Birmingham. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Pacistanaidd Asiaidd.
Plediodd yn ddieuog i chwe chyhuddiad o dreisio, un cyhuddiad o sodomiaeth heb gydsyniad, dau gyhuddiad o gynorthwyo a chefnogi treisio a dau gyhuddiad o achosi puteindra.
- Syed Mohammad Ashan Taqvi, 65 oed, o Gasnewydd. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Pacistanaidd Asiaidd.
Plediodd yn ddieuog i bedwar cyhuddiad o dreisio.
- Mohammed Sheikh Abdul Hannan, 54 oed, o Gaeredin. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Prydeinig Bangladeshi.
Plediodd yn ddieuog i un cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar fenyw dros 16 oed, dau gyhuddiad o dreisio, tri chyhuddiad o gynorthwyo a chefnogi treisio ac un cyhuddiad o gynllwynio i dreisio.
- Kevin Lawrence, 54 oed, o Dunoon, Argyll a Bute. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw gwyn Ewropeaidd.
Plediodd yn ddieuog i un cyhuddiad o gynllwynio i dreisio ac un cyhuddiad o achosi puteindra.
- Aminur Rahman Choudhury, 58 oed, o Tottenham, gogledd Llundain. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Bangladeshi Asiaidd.
Plediodd yn ddieuog i un cyhuddiad o dreisio.
- Murad Ali, 57 oed, o Abertawe. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Pacistanaidd Asiaidd.
Nid oedd y tri dyn arall wedi pledio yn ystod y gwrandawiad ddydd Gwener.
- Sheikh Mohammed Tahir Ullah, 73 oed, o Gasnewydd. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Bangladeshi Asiaidd.
Dywedodd Heddlu Gwent yn flaenorol ei fod wedi cael ei gyhuddo o un cyhuddiad o dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn ac un cyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed.
- Mohammed Ramzan, 76 oed, o Gasnewydd. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Pacistanaidd Asiaidd.
Dywedodd Heddlu Gwent yn flaenorol ei fod wedi cael ei gyhuddo o saith trosedd, sef dau gyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed, tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fenyw dan 16 oed, un cyhuddiad o achosi puteindra menyw dan 16 oed ac un cyhuddiad o gynllwynio i dreisio menyw dan 16 oed.
- Shakeel Babur, 58 oed, o Nelson, Sir Gaerhirfryn. Ei ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig yw Prydeinig Pacistanaidd.
Dywedodd Heddlu Gwent yn flaenorol ei fod yn wynebu pedwar cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar ferch dan 16 oed.
Cafodd y naw dyn eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.