Babi wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn y Fenni

Llun: Google Maps
Llwynu Lane

Mae babi wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn y Fenni, meddai’r heddlu.

Cafodd Heddlu Gwent adroddiad am argyfwng meddygol ar Heol Llwynu tua 07.40 ddydd Iau 20 Awst.

Fe aeth swyddogion a chriwiau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r lleoliad.

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans fod y babi wedi marw yn y fan a’r lle.

Nid yw’r heddlu wedi cadarnhau a oes ymchwiliad wedi’i lansio nac os yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.