Mwy o dywydd stormus i Gymru o ganlyniad i’r El Niño ‘mwyaf ers y 19eg ganrif’

Difrod Storm Amy ar Ynys Mon

Mae Cymru a gwledydd eraill gogledd-orllewin Ewrop yn debygol o weld mwy o stormydd a glaw yn ystod yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod oherwydd y digwyddiad El Niño “mwyaf ers y 19eg ganrif”.

Mae El Niño yn cael ei ddatgan pan fydd tymheredd y môr yn nwyrain trofannol y Môr Tawel yn codi 0.5C yn uwch na’r cyfartaledd hirdymor.

Mae hynny yn effeithio ar batrymau glaw a thymheredd cyfartalog ledled y byd.

Mae disgwyl i’r cynnydd naturiol yn nhymheredd y môr gyrraedd mwy na 3C yn ystod y misoedd nesaf, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae’n cynyddu’r perygl o sychder yn y trofannau, de Affrica a gogledd-ddwyrain Awstralia. 

Ond yn ôl y Swyddfa Dywydd mae gwledydd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys rhai y DU, yn debygol o gael tywydd gwlypach a mwy stormus yn ystod yr hydref a dechrau’r gaeaf.

“Mae’n rhaid i ni fod yn glir bod hwn yn ddigwyddiad digynsail,” meddai’r Athro Adam Scaife, pennaeth rhagolygon hirdymor y Swyddfa Dywydd.

“Dydw i erioed wedi gweld arwydd El Niño mor gryf â hyn yn ein rhagolygon.”

Ychwanegodd: “Fel arfer, mae El Niño yn arwain at gynnydd o rhwng 1C a 2C yn nhymheredd wyneb y môr yn y Môr Tawel ar hyd y cyhydedd, ac mae 2C yn ddigwyddiad mawr iawn.

“Mae hyn yn awgrymu, os yw’r rhagolwg yn gywir, ac mae systemau rhagweld eraill yn dangos gwerthoedd eithafol tebyg, y bydd El Niño yn 2026 a’i ddylanwad ar hinsawdd y byd yn llawer mwy nag unrhyw beth rydym wedi ei brofi’n ddiweddar.”

‘Pwysau’

Mae digwyddiadau El Niño hefyd yn cynyddu tymheredd cyfartalog y byd, ac mae disgwyl mai 2027 fydd y flwyddyn gynhesaf ar gofnod.

“Yn ystod digwyddiadau El Niño mawr, mae llawer mwy o wres yn cael ei ryddhau o’r môr i’r atmosffer, gan gynyddu tymheredd cyfartalog y byd, yn enwedig yn ystod y flwyddyn galendr ar ôl i El Niño gyrraedd ei uchafbwynt yn y gaeaf,” meddai Dr Nick Dunstone, Cymrawd Gwyddoniaeth y Swyddfa Dywydd.

“Felly, mae’n debygol iawn y bydd 2027 yn disodli 2024 fel y flwyddyn gynhesaf ar gofnod ac y bydd yn flwyddyn arall pan fydd y tymheredd dros dro yn fwy nag 1.5C yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol.”

Dywedodd yr Athro Stephen Belcher, prif swyddog gwyddoniaeth a thechnoleg y Swyddfa Dywydd: “Yr haf hwn, rydym wedi profi tonnau gwres ar draws Ewrop sydd wedi ein hatgoffa o effeithiau newid hinsawdd.

“Mae’r El Niño mawr hwn yn ein hatgoffa bod amrywiadau naturiol yn y system hinsawdd hefyd yn cael effaith, gan ychwanegu at y pwysau sy’n deillio o newid hinsawdd.”

Mae’r gyfres ddigynsail o donnau gwres a’r diffyg glaw yn ystod y misoedd diwethaf wedi arwain at y mis Gorffennaf sychaf ers 190 o flynyddoedd.

Mae hefyd wedi rhoi Cymru gyfan mewn cyflwr o sychder. Mae hynny’n rhoi pwysau difrifol ar y system ddŵr, bywyd gwyllt, ffermwyr, y gwasanaethau brys a seilwaith.

Mewn diweddariad ddydd Llun, dywedodd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân fod 1,132 o danau gwyllt wedi cael eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr hyd yma yn 2026. 

Dyma’r nifer uchaf ar gofnod rhwng mis Ionawr a’r adeg hon o’r flwyddyn.

Ar ôl cyfarfod brys i drafod y don wres yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd Prif Weinidog y DU, Andy Burnham: “Efallai y byddwn yn cael hydref a gaeaf gwlyb yn syth ar ôl hyn, oherwydd El Niño a rhai o’r problemau sy’n gysylltiedig ag ef. 

“Cafodd hynny ei adrodd i Cobra.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.