‘Eithriadol o bryderus’: Cymru a Lloegr yn cymryd camau i atal sychder yn afon Hafren

Sychder yn Afon Hafren

Mae asiantaethau amgylcheddol Cymru a Lloegr wedi dweud eu bod nhw’n cymryd camau i atal sychder yn afon hiraf Prydain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am Orchymyn Sychder ar afon Hafren.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd wedi gwneud cais am Orchymyn Sychder gan Lywodraeth y DU ar gyfer afon Hafren yn Lloegr.

Dyma'r tro cyntaf i Orchymyn Sychder gael ei wneud ar afon Hafren ers 37 mlynedd (1989) - sy’n amlygu difrifoldeb y sefyllfa a achoswyd gan y sychder yr haf hwn, medden nhw.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr eu bod nhw’n “eithriadol o bryderus” am yr effaith ar gynefinoedd afon Hafren a’r ffermwyr cyfagos.

Mae afon Hafren yn cael ei rheoleiddio drwy gydol y flwyddyn gan ollyngiadau o gronfeydd dŵr Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy, yn ogystal â ffynonellau dŵr daear.

Ond mae lefelau storio y cronfeydd dŵr sy'n bwydo afon Hafren yn gostwng yn gyflym.

Nod y Gorchmynion Sychder sy'n cael ei gynnig gan y rheoleiddwyr yw ymestyn y dŵr sydd ar gael mewn cronfeydd dros gyfnod hirach.

Bydd y gorchymyn yn lleihau'r swm lleiaf o ddŵr sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yn afon Hafren er mwyn atal sychder.

Byddai'r gorchmynion ar waith am hyd at chwe mis, a dylai lefelau'r amgylchedd a'r cronfeydd dŵr adfer unwaith y bydd glawiad arferol yn dychwelyd, medden nhw.

Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau o CNC bod “yr effaith niweidiol ar yr amgylchedd yn glir i bawb ei gweld” yn sgil y sychder diweddar.  

“Y gorchymyn sychder hwn fydd y diweddaraf o nifer o fesurau y bu’n rhaid i ni eu cymryd i sicrhau bod ein hafonydd yn aros mor iach â phosibl ac yn parhau i gefnogi’r ecosystemau sy’n dibynnu arnynt," meddai.  

“Ar adegau fel hyn mae dŵr yn adnodd gwerthfawr. Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf. 

“Rydym yn annog pobl i ddilyn cyngor cwmnïau dŵr a darganfod beth allant ei wneud i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon i helpu i ddiogelu lefelau’r cyflenwad ar gyfer pobl a byd natur.”  

‘Pob diferyn’

Erbyn 16 Awst, dim ond 7% o'r glawiad disgwyliedig yr oedd Cymru wedi’i gael, gyda rhai lefelau afonydd a dŵr daear bellach yn cyrraedd isafbwyntiau hanesyddol.

Erbyn dydd Llun roedd cronfa ddŵr Clywedog wedi cyrraedd 48.4% o'i chapasiti - ar ôl gostwng o 55.6% ar Awst 10 - o'i gymharu â 76.4%ar Awst 11 y llynedd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr hefyd wedi dweud y byddai'n hoffi gweld mesurau fel gwaharddiadau ar bibellau dŵr yn cael eu cyflwyno'n gynharach gan gwmnïau dŵr. 

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd fod angen y camau i “atal rhannau o afon hiraf Prydain rhag sychu” a Chlywedog rhag “disbyddu’n llwyr”.

Dywedodd: “Rydym yn eithriadol o bryderus am yr effaith y mae’r sychder yn ei chael ar gynefinoedd Afon Hafren a’r ffermwyr cyfagos.

“Mae angen i ni weld glaw sylweddol a pharhaus er mwyn i’r sychder hwn ddod i ben. 

“Bydd y Gorchymyn Sychder hwn, os caiff ei wneud, yn atal cronfa ddŵr Clywedog rhag disbyddu’n llwyr a bydd yn atal rhannau o afon hiraf Prydain rhag sychu.

“Rydym yn dal i ddisgwyl i gwmnïau dŵr ddilyn eu cynlluniau sychder ac annog defnydd cynharach o Waharddiadau Defnydd Dros Dro i amddiffyn cyflenwadau dŵr cyhoeddus a gwarchod yr amgylchedd.

“Mae pob diferyn y gallwn ei arbed yn ddiferyn mwy i’ch ffermwyr lleol, bywyd gwyllt lleol, ac afonydd lleol.”

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw waharddiadau ar ddefnyddio dŵr yn ardaloedd Severn Trent Water, South Staffordshire Water, Bristol Water a Hafren Dyfrdwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.