Dau o staff yn cymryd awenau cwmni goleuo a sain yng ngogledd Cymru
Mae un o gwmnïau cynhyrchu digwyddiadau byw mwyaf adnabyddus gogledd Cymru “wedi dechrau pennod newydd” wrth i ddau o’i staff gymryd yr awenau.
Fe fydd Gwyn a Mandy Hughes o Fethel, Caernarfon yn arwain Cwmni Sain a Goleuo MAD o hyn ymlaen.
Mae'r ddau, sy’n ŵr a gwraig, wedi bod yn rhan o’r cwmni ers bron i dri degawd.
Mae Gwyn wedi gweithio i'r cwmni ers 17 mlynedd a Mandy ers wyth mlynedd.
Dywedodd y ddau fod y “cam yn sicrhau bod y busnes yn parhau mewn perchnogaeth leol, gan adeiladu ar yr enw da sydd wedi'i adeiladu dros 25 mlynedd”.
Cafodd MAD ei sefydlu gan Arwel Hughes yn 2000 ac ers hynny, mae’r cwmni wedi datblygu i fod yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau sain, goleuo a llwyfannu proffesiynol gogledd Cymru.
Mae’r cwmni wedi cefnogi amryw o ddigwyddiadau cymunedol a chyngherddau i wyliau mawr, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Arwel Hughes ei fwriad i gamu yn ôl, yn dilyn dros dau ddegawd yn y diwydiant, a dechreuodd chwilio am olynwyr i arwain y busnes.
Balchder
Dywedodd Arwel Hughes: "Mae'r cwmni wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers fy ugeiniau.
"Bellach, yn fy mhumdegau ac yn dad i ddau o blant ifanc, rydw i eisiau canolbwyntio ar brif fusnes ein teulu fel trefnwyr angladdau.
"Rydw i'n hynod falch o bopeth rydym wedi'i gyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'n bleser mawr gen i weld Gwyn a Mandy yn cymryd yr awenau. Maen nhw wedi bod yn rhan annatod o MAD ers blynyddoedd lawer, yn deall yn union beth sy'n gwneud y cwmni'n arbennig, ac rydw i'n gwbl hyderus y byddan nhw'n parhau i adeiladu ar bopeth rydym wedi'i gyflawni."
Dywedodd Gwyn Hughes ei fod wedi bod yn gweithio yn y diwydiant sain proffesiynol ers 1992, ac wedi treulio blynyddoedd yn gweithio ochr yn ochr ag Arwel.
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi dod i adnabod ein cwsmeriaid a threfnwyr digwyddiadau yn dda, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i yn hynod falch ohono," meddai.
"Fel rhywun sy'n lleol i'r ardal, rydw i'n gwybod pa mor bwysig ydi hynny.
"Rydym wedi gweithio gyda llawer o'r un cwsmeriaid flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan gefnofi popeth o wyliau bwyd lleol a digwyddiadau cymunedol i rai o ddigwyddiadau mwyaf y rhanbarth.
"Mae’r cyswllt lleol yna yn rhan annatod o'r hyn sy'n gwneud y busnes hwn yn llwyddiannus."