Roy Hattersley, cyn-ddirprwy arweinydd Llafur dan Kinnock, wedi marw
Mae'r cyn-wleidydd Roy Hattersley, wnaeth wasanaethu fel dirprwy arweinydd y blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Neil Kinnock, wedi marw.
Roedd y gŵr o Sheffield yn 93 oed.
Fe ddechreuodd ei yrfa wleidyddol yn 1964 fel Aelod Seneddol ar gyfer Birmingham Sparkbrook a chadw'r sedd am dros 30 mlynedd.
Yn y 70au daeth yn weinidog yng nghabinet James Callaghan ac yna yn ddirprwy arweinydd y blaid Lafur fel yr wrthblaid pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym yn yr 80au.
Fe dreuliodd mwy na dau ddegawd o'i yrfa fel gwleidydd ar feinciau'r wrthblaid. Ond mae'n cael ei gofio fel dyn a lwyddodd i lywio'r blaid Lafur oddi wrth bolisïau oedd yn amhoblogaidd gyda nifer o'r pleidleiswyr. Fe wnaeth annog ei blad i gefnogi'r Uned Ewropeaidd, y farchnad economaidd ac i gofleidio diarfogi amlochrog.
Fe gafodd ei dderbyn i Dŷ’r Arglwyddi yn 1997, gan arddel y teitl Barwn Hattersley o Sparkbrook.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Syr Keir Starmer: "Trwy ddegawdau o wasanaeth, gan gynnwys fel dirprwy arweinydd a gweinidog, wnaeth o fyth anghofio ei gred mewn Prydain fwy cyfartal".
"Mae fy meddyliau gyda'i wraig Maggie a'i deulu."
Dywedodd yr Arglwydd Kinnock ei fod wedi ei "dristau" o glywed y newyddion am ei farwolaeth.
“Roedd Roy yn sosialydd o argyhoeddiad dwfn, yn ddemocrat oedd yn ymroddedig ac roedd yn credu na ddylai rhyddid fod yn gymwys i ddim byd ond cyfrifoldeb ac nid byth i gefndir na ffortiwn. Roedd o'r farn bod y rhyddid hwnnw yn gorfod cael ei warchod trwy dderbyn cyfrifoldeb ar y cyd."
Llun:Mike Egerton/PA

