Rownd nesaf o doriadau'r BBC 'am fod yn fwy amlwg i'r gynulleidfa'

BBC/PA

Mae adroddiad newydd yn rhybuddio y bydd y rownd nesaf o doriadau i swyddi a rhaglenni'r BBC yn fwy amlwg i'w cynulleidfa, wrth i'r gorfforaeth geisio arbed £500 miliwn arall.

Mae'r BBC eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar tua 1,800 o swyddi a chau nifer o wasanaethau teledu a radio, wrth wynebu pwysau ariannol cynyddol.

Yma yng Nghymru ma'r BBC wedi wynebu beirniadaeth ar ôl cyhoeddi fod nifer o raglenni poblogaidd yn dod i ben fel rhan o'r toriadau diwethaf.

Fe gyhoedodd y gorfforaeth fis Medi y bydd nifer o raglenni’n dod i ben, gan gynnwys Dros Ginio, Dros Frecwast ar ddydd Sadwrn ac Ar y Marc, fel rhan o gynlluniau i arbed £9 miliwn yng Nghymru.

Mae adroddiad newydd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi bod y BBC yn disgwyl cyflawni ei rhaglen bresennol o arbedion ac ail-fuddsoddi gwerth £700 miliwn flwyddyn yn gynharach na'r disgwyl.

Ond, mae'r corff sy'n cadw llygad ar wariant cyhoeddus hefyd yn rhagweld y bydd y camau nesaf i dorri costau yn anoddach eu gweithredu.

Mae'r BBC wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud eu bod yn gweithredu i gryfhau’r broses o gyflawni eu rhaglen arbedion. Dywedodd y gorfforaeth hefyd nad yw’r model ariannu presennol ar eu cyfer "yn gynaliadwy a bod angen ei ddiwygio."

Gostyngiad o 11% yn y gweithlu

Dywedodd y Swyddfa Archwilio fod y rhaglen o doriadau sydd ar y gweill - sy'n parhau tan fis Mawrth 2029 - yn debygol o leihau gweithlu'r BBC o tua 11% o'i gymharu â lefelau staffio ym mis Mawrth 2026.

Bydd newidiadau pellach i gynnwys a gwasanaethau'r BBC hefyd fel rhan o'r cynllun arbed arian.

Daw adroddiad y Swyddfa Archwilio yn sgil pwysau ar gyllid y darlledwr, sy’n deillio o ostyngiad yn yr incwm o’r ffi drwydded, costau cynhyrchu cynyddol, arferion cynulleidfaoedd sy’n newid, a chystadleuaeth gynyddol gan lwyfannau ffrydio a digidol.

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi fod incwm y BBC o’r ffi drwydded wedi gostwng 26% mewn termau real rhwng 2016-17 a 2025-26.

Roedd diffyg ariannol gweithredol y gorfforaeth yn £209 miliwn yn 2025-26.

Cwymp yn nifer defnyddwyr

Fe welwyd hefyd ostyngiad yng nghyfran yr oedolion yn y DU sy’n defnyddio gwasanaethau teledu, iPlayer, radio neu wasanaethau ar-lein y BBC mewn wythnos arferol, a hynny o 90% yn 2021-22 i 81% yn 2025-26.

Mae’r BBC eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau gwariant o tua 10%, gan gynnwys toriadau i raglenni ar draws ei adrannau newyddion, y cenhedloedd a chynnwys.

Mae’r mesurau i arbed costau yn cynnwys y penderfyniad i ganslo rhaglenni fel Celebrity Mastermind, Blankety Blank a Live At The Apollo, yn ogystal â dod â rhaglenni ar Radio 4, gan gynnwys The World Tonight, i ben.

Mae’r gorfforaeth hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gau gwasanaethau darlledu llinol BBC Radio 4 Extra, BBC Three a BBC Scotland.

Bydd y ddau olaf yn troi’n sianeli sydd ar gael ar-lein yn unig.

'Dewisiadau anodd'

Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio: “Wrth i’r BBC agosáu at adnewyddu ei siarter ymhen ychydig dros flwyddyn, nid oes amheuaeth bod dewisiadau anodd o’i flaen.

“Gall arweinwyr y BBC ddysgu gwersi o’i raglen werth £700 miliwn ar gyfer ei raglen newydd, sy’n fwy heriol; mae hyn yn cynnwys cryfhau ei ddull o reoli risg, a datblygu ffordd gyson o ddeall canlyniadau ehangach ei fentrau arbed costau ar gynulleidfaoedd a darpariaeth gwasanaethau.”

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd y BBC ei fod yn croesawu’r canfyddiadau, gan ychwanegu ei fod wedi gorfod “gwneud penderfyniadau anodd oherwydd pwysau ariannol parhaus, a achoswyd gan ostyngiad yn yr incwm o’r ffi drwydded, newidiadau yn ymddygiad cynulleidfaoedd, mwy o gystadleuaeth a chostau cynyddol”.

Dywedodd Berangere Michel, prif swyddog ariannol grŵp y BBC: “Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn ac yn falch bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cydnabod yr arbedion sylweddol a gyflawnwyd eisoes gan y BBC, gyda’r rhaglen ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.

“Rhaid i’r BBC ymateb i bwysau cost sylweddol wrth ailddyfeisio ar gyfer byd sy’n newid. Mae hyn yn parhau i olygu bod angen penderfyniadau anodd, gan sicrhau bod yr effeithiau ar gynulleidfaoedd a chydweithwyr yn cael eu lleihau i’r lleiafswm."

Ychwanegodd: “Rydym yn derbyn argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac eisoes wedi dechrau eu gweithredu i gryfhau’r broses o gyflawni ein rhaglen arbedion bresennol, gan gydnabod bod cyfleoedd pellach i adeiladu ar y cynnydd hwn.

“Rydym wedi dadlau’n gyson nad yw’r model ariannu presennol yn gynaliadwy a bod angen ei ddiwygio."

 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.