Rhaglen Ar y Marc yn rhan o doriadau diweddaraf BBC Cymru
Mae Newyddion S4C yn deall fod nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal mewn gwahanol adrannau o BBC Cymru fore dydd Iau i drafod toriadau ariannol.
Un rhaglen fydd yn dod i ben o ganlyniad i'r mesurau arbed arian diweddaraf o fewn y gorfforaeth yw'r rhaglen bêl-droed boblogaidd Ar y Marc yn ôl ffynonellau o fewn y BBC.
Mae'r rhaglen dan ofal y cyflwynydd Dylan Jones wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar foreau dydd Sadwrn ers bron i 35 o flynyddoedd.
Y gred yw y bydd darllediad o bodlediad Y Coridor Ansicrwydd yn dod yn ei lle pan fydd Ar y Marc yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Ail-ddarlledu
Ddydd Mercher fe ddaeth y newyddion fod rhaglen Dros Ginio yn dod i ben.
Mae Newyddion S4C yn deall y bydd ailddarllediadau o raglenni Dei Thomas, Beti a'i Phobl a Llwyfan, y rhaglen gelfyddydol, yn cael eu darlledu yn lle Dros Ginio yn ystod yr wythnos.
Bydd rhaglen wleidyddol Gwleidydda yn cael ei darlledu ar un diwrnod o'r wythnos, a rhaglen newyddion wythnosol newydd ar ddiwedd yr wythnos hefyd.
Yn dilyn y newyddion fod cyfnod John Hardy yn dod i ben gyda BBC Radio Cymru, mae disgwyl y bydd Radio Cymru 2 yn llenwi bwlch yn y boreau tan 07:00 pan fydd Dros Frecwast ar yr awyr.
Newyddion
Yn yr adran newyddion, mae disgwyl i ddwy swydd gohebwyr arbennig fynd - gyda newyddiadurwyr yn clywed mewn cyfarfod fore dydd Iau mai'r bwriad oedd ail-lunio amserlenni rhaglenni, er nad oedd manylion pellach am y newidiadau hyn.
Bydd mwy o fuddsoddiad yn cael ei wneud ar blatfform YouTube hefyd mae'n debyg.
Yn ôl un aelod o staff, roedd y "mood yn flin iawn" ymysg staff oedd yn y cyfarfod.
Cyhoeddodd y BBC ym mis Mehefin y camau cyntaf yn eu cynlluniau i sicrhau arbedion o £500 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2027/28.
Mewn datganiad i’r sector gynhyrchu ar y pryd, dywedodd BBC Cymru y bydd y toriadau’n effeithio ar bob rhan o’u portffolio fideo a sain.
Roedd hynny’n cynnwys rhaglenni teledu wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Sounds.
'Cylch dinistriol'
Yn dilyn y cyhoeddiad am nifer o doriadau yr wythnos hon, gan gynnwys 41 o swyddi yn adran chwaraeon y BBC yn genedlaethol, mae undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, wedi rhybuddio fod perygl y gallai'r gorfforaeth gael ei dal mewn "cylch dinistriol" y mae modd ei osgoi.
Byddai hynny'n "niweidio gweithwyr a chynulleidfaoedd y DU fel ei gilydd os bydd darlledwr y genedl yn parhau â'i drefn o doriadau llym."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ, Laura Davison: "Mae ymgyrch barhaus y BBC i dorri cyllidebau yn ddinistriol ac yn chwalu morâl ein haelodau, ac mae'n tanseilio'n ddifrifol allu'r darlledwr i wasanaethu cynulleidfaoedd ledled y DU.
"Mae'r don ddiweddaraf o doriadau yn ychwanegu at y drallod sy'n cael ei deimlo eisoes.
"Mae Radio Lleol y BBC yn denu miliynau o wrandawyr ledled y wlad bob wythnos. Mae'r BBC hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu 'gwasanaeth chwaraeon mwyaf poblogaidd y DU'.
"Gweithlu ymroddedig y BBC sydd wedi sicrhau ei lwyddiant, ac ni fydd y darlledwr yn gallu parhau i ddarparu newyddiaduraeth o safon a rhaglenni gwreiddiol hebddynt."
Ychwanegodd: "Po fwyaf o doriadau y mae'r BBC yn eu gwneud, mwyaf oll y mae ei wasanaethau'n dioddef. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i'r darlledwr gyfiawnhau gwariant cyhoeddus, sydd yn ei dro yn arwain at ragor o doriadau.
"Mae'r BBC mewn perygl o lithro i gylch anochel o ddirywiad os bydd yn parhau i symud i'r cyfeiriad hwn."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan y BBC am y toriadau diweddaraf yng Nghymru.