Penderfyniad i ganslo drama Foden 'er lles y dioddefwyr' - Prif Weithredwr S4C

Newyddion S4C
Geraint Evans S4C

Mae Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, wedi dweud fod y sianel wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda’r ddrama am y pedoffeil a'r cyn-brifathro Neil Foden “er lles y dioddefwyr”.

Dyma'r tro cyntaf i gynrychiolydd ar ran S4C siarad yn gyhoeddus am y penderfyniad dadleuol. 

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd S4C na fydden nhw’n parhau â chynhyrchiad cyfres ddrama gyda’r teitl gweithredol 'Y Pennaeth' am achos y troseddwr rhyw, gafodd ei garcharu yn 2024.

Roedd y ddrama wedi bwriadu "archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd" i atal Foden cyn ei droseddu. 

Wrth siarad gyda gohebydd Newyddion S4C mewn digwyddiad i lansio'r addasiad Cymraeg o Star Wars yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Evans nad oedd canslo'r ddrama yn “benderfyniad hawdd” i’w wneud.

“Ond wrth gwrs roedd rhaid i fi, fel Prif Weithredwr, ystyried lles y dioddefwyr a'r goroeswyr yn yr achos yma a dyna oedd yr ystyriaeth bennaf i fi wrth i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda'r cynhyrchiad," meddai.

“Dw i ddim am ddweud llawer mwy achos... 'dyn ni yn gwneud hynny achos dwi ddim eisiau i straeon fel hyn i gael eu hailgodi dro ar ôl tro, wrth feddwl am y dioddefwyr. 

“Felly dwi'n credu fod gor-wneud hynny yn rhywbeth sydd ddim yn llesol iddyn nhw, a nhw ddylai fod ar ein meddyliau ni gyd.

Roedd nifer wedi beirniadu'r penderfyniad gwreiddiol i gomisiynu'r ddrama, gyda rhai yn dweud ei bod yn rhy fuan wedi'r achos llys. 

Ac roedd pryderon y gallai hynny achosi poen meddwl pellach i'r dioddefwyr a'r gymuned yn lleol. 

Wrth gyhoeddi'r newyddion fod y ddrama wedi ei chanslo, dywedodd S4C mewn datganiad nad oedd yn briodol bwrw ymlaen â'r cynhyrchiad, a'u bod " yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd."

Cafodd Foden, cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched yn rhywiol.

Yn 2025, daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i'w atal rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.