'Rhwystredig iawn': Rhestrau aros yn cynyddu am y chweched mis yn olynol
'Rhwystredig iawn': Rhestrau aros yn cynyddu am y chweched mis yn olynol
Mae'r nifer sydd yn aros i gael triniaeth yng Nghymru wedi cynyddu am y chweched mis yn olynol yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Roedd 721,400 yn aros am driniaeth ym mis Medi o’i gymharu â 714,000 ym mis Awst. Mae hynny yn gynnydd o dros 7,000.
Mae 4,900 wedi aros am dros ddwy flynedd am driniaeth - cwymp bychan o 160 o’i gymharu â ffigurau mis Awst.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae yna arwyddion bod y sefyllfa yn gwella.
'Aros blwyddyn arall'
Un sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth am flwyddyn yw Helen Davies sy’n 43 oed ac sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan gyda'i gŵr a’i dau fab.
Yn ystod gwyliau'r Pasg 2025, fe ddaeth hi o hyd i lwmp bach o dan ei chlust.
Cadarnhaodd profion yn Ysbyty Glangwili mai tiwmor oedd y lwmp, ac er nad yw'n ganser, cafodd wybod ym mis Tachwedd y llynedd bod angen llawdriniaeth i'w dynnu.
Mae hi wedi bod yn aros am driniaeth ers hynny, ac mae'r tyfiant bellach yn pwyso ar y nerfau yn ei hwyneb.
"Pleomorphic Adenoma yw enw'r tiwmor yma. Dw i yn ffodus, mae'r tiwmor yn benign, ond mae angen e allan.
“Mae e'n tyfu ac wedi tyfu ers y llynedd. Dw i wedi aros am flwyddyn yn barod am y llawdriniaeth.
“Ges i biopsy bron i saith wythnos nôl. Roedd rhaid i fi aros 5 wythnos am ganlyniadau. Fe ddywedodd y doctor ar y pryd efallai bydd rhaid i fi aros blwyddyn arall [am lawdriniaeth]," meddai.
Ychwanegodd: "Maen nhw wedi dweud dyw e ddim yn ganser nawr ond mi allai droi yn ganser, efallai mewn cwpl o flynyddoedd.
“Dw i eisiau fe allan mor gynted â phosib. Mae'r lwmp wedi caledu ac wedi tyfu ac ar hyn o bryd mae'n gweithio lan ac wedi effeithio ar y nerfau yn fy wyneb.
“Mae'n boenus yn ddyddiol. Mae'n ofidus ac yn rwystredig iawn. Dw i ddim wedi cael dim esboniad [am yr oedi]."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais i ymateb i achos Helen Davies.
'Mae'n gonsyrn'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 10 o hybiau llawfeddygol yn cael eu creu ledled y wlad dros y pedair blynedd, i geisio mynd I’r afael â rhestrau aros.
Dywedodd Helen Davies bod y cynnydd mewn rhestrau aros yn “bryderus”:
"Mae'n gonsyrn, ydy. Chi'n teimlo, chi wedi gweithio mor galed ac eto ni dal yn gorfod aros.
“Mae'r oedi yn ddi-ddiwedd ar hyn o bryd. Dw i wedi siarad gyda sawl un yn ddiweddar sydd yn dweud eu bod nhw wedi aros a phryd mae hyn yn mynd i orffen.
“Chi'n clywed am rai sydd yn mynd yn breifat. Does dim bob un yn y sefyllfa i fedru mynd yn breifat a hefyd chi'n teimlo yn grac bod rhaid mynd yn breifat pan rydym wedi gweithio mor galed.
“Dw i wedi gweithio ar hyd fy oes, ac wedi codi'r plant i fod yn weithgar hefyd, a dw i yn teimlo pam ddylsen ni dalu i fynd yn breifat?" meddai.
Tra ar ymweliad ag ysbyty Llandochau, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, bod “yna arwyddion o welliant” ond mi fydd yn cymryd amser i weld buddsoddiad o £145m yn dwyn ffrwyth.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd mewn sefyllfa gryfach nag erioed ar drothwy’r gaeaf, ac rwy’n hyderus bod gan y byrddau iechyd y cynlluniau cywir," meddai.
“Mae angen mynd i’r afael â’r sefyllfa mewn adrannau brys. Mae’n bwysig ein bod ni yn sicrhau nad yw pobl yn aros yn rhy hir, naill ai mewn ambiwlans neu adran frys.
“Mae gyda ni gynllun pendant i wella llif cleifion,” meddai.
Yn y gyllideb ddrafft yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £500m yn ychwanegol ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn 2027-28.