'Rhagor o gyfleoedd sydd angen': Neges actor Star Wars Cymraeg i ddiwydiant Cymru
Mae'r actor sy'n lleisio Luke Skywalker yn fersiwn Gymraeg Star Wars wedi galw am ragor o gyfleoedd i dalent yng Nghymru, gan ddweud bod angen llwyfannau i feithrin cenhedlaeth newydd o actorion.
Mae Osian Morgan yn un o nifer o actorion Cymru sydd wedi benthyg eu lleisiau i Star Wars: Gobaith Newydd, fydd yn cael dangosiad arbennig yng Nghaerdydd nos Iau.
"Mae'r talent yng Nghymru yna, on'd yw e? Ond jyst rhagor o gyfleoedd sydd angen arnom ni, a phlatfform wedyn fel ein bod ni'n ysgogi rhagor o dalent newydd i ddod drwyddo," meddai wrth Newyddion S4C.
Cyfeiriodd at lwyddiannau diweddar actorion o Gymru ar y sgrin fawr a bach gan gynnwys Matthew Rhys, Tom Rhys Harries a Lauren Morais.
"Fi'n meddwl bod e'n gyfnod rili cyffrous i'r celfyddydau creadigol yng Nghymru," meddai.
Bydd nifer o'r cast sy'n lleisio rhai o gymeriadau mwyaf eiconig y sgrin fawr ar y carped coch yn sinema Cineworld yng nghanol Caerdydd nos Iau.
Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi'u castio yn y prif rannau, gyda Matthew Rhys yn lleisio Han Solo, Rhys Ifans yn lleisio Obi-Wan Kenobi ac Aimee-Ffion Edwards yn lleisio'r Dywysoges Leia.
Bydd Mark Lewis Jones, sydd eisoes wedi ymddangos yn Star Wars: The Last Jedi, yn lleisio Darth Vader.
Mae'r fersiwn Gymraeg yn cael ei chyhoeddi fel rhan o brosiect i ailgyflwyno'r glasur mewn ieithoedd lleiafrifol, a daw yn sgil cyhoeddi fersiynau yn ieithoedd brodorol Navajo ac Ojibwe yng Ngogledd America.
Mae'r prosiect wedi'i gynhyrchu gan Lucasfilm a Disney mewn cydweithrediad ag S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
'Uchafbwynt fy mywyd'
Mae Osian, sydd wedi ymddangos yn nghyfresi Pobol y Cwm, Waterloo Road ac Emmerdale, wedi disgrifio'r profiad o leisio Luke Skywalker fel breuddwyd sydd wedi dod yn wir.
"Dyma uchafbwynt fy mywyd - cael y math yma o gyfrifoldeb i leisio Luke Skywalker," meddai.
Dywedodd ei fod wedi treulio dau ddiwrnod yn recordio'r rhan, ond nad oedd y profiad yn teimlo fel gwaith.
"O'n i 'na falle 14 awr, ond oedd pob munud jyst fel breuddwyd yn dod yn wir.
"Doedd e ddim yn teimlo fel 14 awr, ond fel 14 munud achos ges i gymaint o hwyl."
Dywedodd hefyd ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan actorion fel Matthew Rhys a Rhys Ifans, sydd ill dau'n rhan o'r cast Cymraeg.
"Mae Matthew Rhys a Rhys Ifans 'di cael impact enfawr arna i fel actor Cymraeg sy'n siarad Cymraeg," meddai.
'Diolch byth bod o'n rhugl yn y Gymraeg'
Mae Llŷr Ifans, sy'n lleisio'r robot C-3PO, wedi dweud nad oedd erioed wedi dychmygu y byddai'n cael chwarae rhan mor adnabyddus yn y gyfres.
Dywedodd fod Star Wars wedi bod yn rhan fawr o'i blentyndod, a bod ei fab bellach yn gefnogwr mawr o'r ffilmiau.
"Roedd o'n ddyletswydd arna i roi gwên ar ei wyneb o," meddai.
Wrth gyfeirio at allu ei gymeriad i siarad miliynau o ieithoedd, fe ychwanegodd: "Diolch byth bod o'n rhugl yn y Gymraeg."
Dywedodd Llŷr hefyd fod y prosiect yn gyfle i gyflwyno Star Wars i genhedlaeth newydd drwy'r Gymraeg.
"I fi, ffilm Saesneg yw Star Wars, ond rŵan mae gen ti genhedlaeth ifanc yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf i'r ffilm, a fydd o'n cael ei chyflwyno yn Gymraeg.
"Fydd o'n ffilm Gymraeg iddyn nhw."
Fe soniodd am yr her o geisio gosod y llinellau Cymraeg i gyfateb a'r hyn sydd ar y sgrin.
"Mae'r Gymraeg yn iaith lot mwy barddonol a blodeuog na'r Saesneg, so 'dan ni'n tueddu i ddefnyddio mwy o eiriau i ddisgrifio pethau ac i gyfleu ein hunain.
"Felly, y gamp oedd, ti dal yn gorfod cadw hyd dy linell digon hir, so bod nhw'n gallu dorri o'n iawn, so dyna'r gamp efo rhai o'r termau technegol."
Mae'r ffilm yn aduniad o fath i Llŷr a'i frawd Rhys, a chwaraeodd ran y brodyr Lewis yn y ffilm Twin Town yn y 1990au.
'Nes i ddim gweld Rhys'
Er hynny, doedd y ddau frawd ddim yn gweithio gyda'i gilydd wrth recordio eu rhannau ar gyfer Star Wars: Gobaith Newydd.
"Nes i ddim gweld o. Wnaeth o wneud e yn Llundain neu yn Sbaen, nes i wneud o yng Nghaerdydd," meddai Llŷr.
"Pan ti'n gwneud prosiect fel yma, ti byth yn cael cyfarfod gyda'r gyd-actorion, so fydd hi'n neis gweld pwy sy'n gwneud beth heno."
Mae Osian hefyd yn edrych ymlaen i gyflwyno'r ffilm eiconig i'r genhedlaeth iau, gan nad yw ei frawd Griff, sy'n ddeg oed, erioed wedi gweld Star Wars.
Bydd yn cael gweld y ffilm am y tro cyntaf gyda'i frawd mawr yn lleisio Luke Skywalker.
"Mae Griff yn un o gymaint o blant ifanc fydd yma heno'n gweld Star Wars yn y Gymraeg am y tro cyntaf," meddai.
"Mae mor sbesial. Fi'n rili ffeili credu bod fi'n dweud y frawddeg 'na."
Bydd Star Wars: Gobaith Newydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen, cyn i'r ffilm wreiddiol ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2027.
