Defnydd o orsafoedd trenau Cymru yn dychwelyd i lefelau cyn Covid
Mae’r defnydd o orsafoedd trenau Cymru wedi dychwelyd i’r un lefel â’r cyfnod cyn pandemig Covid-19 am y tro cyntaf.
Yn ôl data newydd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), cafodd bron i 52 miliwn achos o bobl yn mynd mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru eu cofnodi rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.
Y tro diwethaf i’r nifer hwnnw fod yn uwch na 50 miliwn oedd yn 2019-2020, pan gofnodwyd dros 50.4 miliwn mynediad ac ymadawiad ar blatfformau rheilffyrdd y wlad.
Ddechrau 2020 cafodd Cymru a gweddill Prydain eu taro gan y pandemig, gan arwain at benderfyniad i gyhoeddi cyfnod clo gorfodol ar Mawrth 23 y flwyddyn honno.
Gyda chyfyngiadau ar deithio a chymdeithasu mewn grym am gyfnodau hir hyd at ddechrau 2022, fe gwympodd defnydd trenau yn sylweddol.
Dim ond 8.7 miliwn achos o fynd a dod mewn gorsafoedd gafodd eu cofnodi yn 2020-21, gyda’r ffigwr yn cynyddu i 29 miliwn y flwyddyn ganlynol.
Ers hynny, mae’r niferoedd wedi codi’n sylweddol ond heb gyrraedd yr un lefel â 2019-2020 tan 2025-26.
Mae’r ffigwr yn parhau ychydig yn is na’r lefel yn y flwyddyn ariannol gyflawn cyn Covid-19, sef 2018-19, pan gofnodwyd ffigwr o 52.7 miliwn.
Y gorsafoedd prysuraf… a’r tawelaf
Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r brysuraf yng Nghymru o bell ffordd, gyda 12.9 miliwn achos o fynd a dod yno yn ystod y flwyddyn.
Yn ail mae Casnewydd, gydag Abertawe’n drydydd. Yn bedwerydd mae un arall o orsafoedd y brifddinas - Heol y Frenhines - gyda Phen-y-bont yn bumed a Cathays yn chweched.
Wrecsam Cyffredinol yw gorsaf brysuraf y gogledd, ychydig o flaen Bangor.
Ar ben arall y tabl mae gorsaf bellennig Dinas y Bwlch ym Mhowys, ble gafodd 268 achos o fynd a dod yn unig eu cofnodi, yn ôl y data.
Yr ail dawelaf oedd gorsaf Pont Rufeinig yn Sir Conwy, sydd ar y lein rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Yn drydydd o’r gwaelod oedd gorsafoedd Llangynllo, Cilmeri a Dolau sydd i gyd - fel Dinas y Bwlch - ar linell Calon Cymru sy’n mynd o’r Gororau i ardal Llanelli.
