'Roedden ni'n meddwl y byddai llofruddiaeth Jo Cox yn newid pethau - nath o ddim'

liz saville.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi dweud iddi gredu y byddai llofruddiaeth yr AS Llafur Jo Cox yn 2016 yn newid natur gwleidyddiaeth ym Mhrydain, ond bod y drafodaeth gyhoeddus wedi mynd yn "llawer mwy ffiaidd" ers hynny.

Daw sylwadau Liz Saville-Roberts wrth i wleidyddion ar draws y DU nodi degawd ers marwolaeth Jo Cox, a gafodd ei llofruddio gan eithafwr asgell dde wrth iddi gyrraedd cymhorthfa etholwyr yn Birstall, ger Leeds, ar 16 Mehefin 2016.

Cafodd Ms Cox, a oedd yn 41 oed ac yn fam i ddau o blant, ei lladd wythnos cyn refferendwm Brexit.

Dywedodd Olivia Field, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Jo Cox, bod y dirwedd wleidyddol wedi dod yn "fwy rhaniadol" dros y degawd diwethaf.

"Mae cam-drin gwleidyddol wedi cynyddu i’r pwynt ei fod wedi’i normaleiddio, ac yn aml menywod a chymunedau lleiafrifoedd ethnig sy’n cael eu heffeithio fwyaf," meddai. "Mae hyn yn fygythiad uniongyrchol i'n democratiaeth - mae pobl dalentog yn camu i lawr, yn peidio â sefyll yn y lle cyntaf neu'n hunan-sensro."

Dywedodd Ms Saville-Roberts, sydd wedi wynebu camdriniaeth a bygythiadau yn ystod ei gyrfa wleidyddol, ei bod hi a Ms Cox yn rhan o'r un garfan o ASau newydd a gafodd eu hethol i San Steffan yn 2015.

Er ei bod yn cydnabod bod diogelwch gwleidyddion wedi gwella'n sylweddol dros y degawd diwethaf, mae'n credu bod y diwylliant ehangach wedi gwaethygu.

"Roedden ni'n meddwl y byddai hyn [llofruddiaeth Jo Cox] yn ffrwyno ni'n ôl," meddai wrth Newyddion S4C.

"Byddai yn ffasiwn sioc, bod yna ddynes ifanc, mam ifanc wedi cael ei lladd, a byddai'n newid ein hymddygiad, neu newid ymddygiad pobl fel [Nigel] Farage.

"Ond nath o ddim, dydi o’m ‘di newid nhw dim - mae 'di dod yn fwy derbyniol i ni ddefnyddio termau sydd yn annog trais."

'Ffiaidd'

Dywedodd Ms Saville-Roberts fod Senedd San Steffan a'r heddlu bellach yn cynnig llawer mwy o gymorth a diogelwch i ASau nag oedd yn bodoli cyn 2016.

Mae trefniadau diogelwch mewn cartrefi a swyddfeydd wedi cynyddu'n sylweddol, meddai, ac mae ymateb yr awdurdodau i fygythiadau yn gyflymach.

Ond ar yr un pryd, mae hi'n credu bod y gofod lle mae gwleidyddiaeth yn cael ei drafod wedi symud fwyfwy ar-lein, gyda chanlyniadau niweidiol.

"Mae'r disgwrs ar X yn bennaf... ond dw i wedi gweld lefel y drafodaeth a'r hyn mae pobl yn barod i ddweud wedi mynd yn llawer mwy ffiaidd," meddai.

Er hynny, dywedodd ei bod yn credu ei bod yn bwysig i wleidyddion barhau i gwrdd ag etholwyr wyneb yn wyneb.

"Mae ymbellhau yn ddrwg i gymdeithas," meddai Ms Saville-Roberts.

"Mae meithrin ymddiriedaeth mewn cymdeithas yn rhan o’n rôl ni. 

"Felly mae yna balans o hyd am fod yn ddiogel, ond hefyd yn bod yn wyneb blaen sydd yn rhoi gwerth ar y ffaith o fod yn barod i gwrdd â phobl."

Image
Jo Cox
Cafodd Jo Cox ei llofruddio yn ei hetholaeth yng ngogledd Lloegr ar 16 Mehefin 2016

Dywedodd yr AS dros Ddwyfor Meirionnydd ei bod yn fwy pryderus am fygythiadau sy'n targedu teuluoedd a staff gwleidyddion nag am ei diogelwch ei hun.

"Dwi'n meddwl yr hyn sy'n fy nghorddi i mwy byth ydy'r syniad fod pobl yn bygwth fy nghartref i, sef fy nheulu i, sydd ddim wedi gofyn am ddim o hyn," meddai.

"A'r un fath efo bygythiadau staff, achos maen nhw hefyd allan yn y gymuned lle maen nhw’n byw a lle bynnag mae’r swyddfa."

Mae hi hefyd yn credu bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn cael eu targedu’n benodol.

Yn ôl astudiaeth gan yr Inter-Parliamentary Union a Chynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, dywedodd 85% o'r menywod a gymerodd ran mewn arolwg ar draws 45 o wledydd Ewrop eu bod wedi profi trais seicolegol yn ystod eu gyrfa wleidyddol.

Yr wythnos diwethaf yn unig, gofynnodd cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i bobl roi'r gorau i'w thargedu ar-lein.

"Dydw i ddim wedi gweithio fel gwleidydd ers dros bum mlynedd bellach," meddai mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Gall y bobl hynny sy'n postio sylwadau anghwrtais, bygythiol a sarhaus oherwydd eich bod chi'n meddwl fy mod i'n wleidydd, stopio os gwelwch yn dda? 

"Yn ddelfrydol, stopiwch eich holl negeseuon cas a bwlio. Iechyd da."

Image
Leanne Wood
Dywedodd Leanne Wood ei bod yn parhau i dderbyn negeseuon cas ar-lein er ei bod wedi rhoi'r gorau i'w gyrfa fel gwleidydd

Mae Ms Saville-Roberts yn feirniadol o rôl cyfryngau cymdeithasol yn y drafodaeth wleidyddol.

Wrth gyfeirio at Elon Musk a'i berchnogaeth o X, dywedodd: "Nid rhyddid llefarydd ydi o, ond mae'n rhoi rhyddid i fygwth."

Mae cyfrifon dienw, camwybodaeth a datblygiadau fel deallusrwydd artiffisial a deepfakes yn bygwth ansawdd y drafodaeth ddemocrataidd, ychwanegodd.

"Fel cymdeithas 'da ni angen arfogi ein hunain i wybod pa ffynonellau sy'n ymdrechu i ddweud y gwir," meddai.

Ychwanegodd fod angen ailadeiladu'r cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a'r cyhoedd.

"Da ni angen i bobl fedru teimlo bod gyda nhw ddweud yn eu bywydau nhw," meddai.

"Ac hefyd i ni ddysgu sut 'da ni'n anghytuno efo'n gilydd yn waraidd, achos dydyn ni ddim yn cytuno gyda’n gilydd trwy’r amser."

Mae Sefydliad Jo Cox wedi dweud bod eu gwaith i feithrin parch a diogelwch mewn gwleidyddiaeth "erioed wedi bod yn bwysicach".

"Dyna pam, er cof am Jo Cox a'i neges o undod, ein bod yn galw am ymdrech o'r newydd i ddod â phobl ynghyd ar draws y sbectrwm gwleidyddol - ac i gofio ei geiriau fod gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu," meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.