Rhyfel Iran: Cynnal cyfarod Cobra i drafod effaith ar gostau byw

Y Prif Weinidog yn siarad wedi ymosodiad Manceinion

Fe fydd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn cynnal cyfarfod Cobra ddydd Llun i fynd i’r afael ag effaith economaidd rhyfel Iran, ar ôl derbyn rhybudd bod cynnydd mewn prisiau yn “anochel”.

Mae pryderon cynyddol ynghylch sut y gallai’r gwrthdaro yn Iran effeithio ar gostau byw, ac mae’r llywodraeth yn awyddus i atal pobl rhag prynu tanwydd mewn panig.

Mae cyfarfodydd Cobra ('Cabinet Office Briefing Rooms') yn gyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal gan y llywodraeth mewn ymateb i argyfyngau brys yn y DU neu dramor ac sydd yn galw am gydlynu ymdrechion rhwng gwahanol adrannau o'r llywodraeth.

Mae disgwyl i weinidogion y cabinet ymuno â Syr Keir, gan gynnwys y Canghellor Rachel Reeves, yr Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper a’r Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband, yn ogystal â llywodraethwr Banc Lloegr.

Yn ogystal ag effaith economaidd yr argyfwng, byddant yn trafod diogelwch ynni a gwydnwch diwydiant a chadwyni cyflenwi ochr yn ochr â’r ymateb rhyngwladol.

Trafod gda Trump

Siaradodd Syr Keir Starmer ag Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ddydd Sul am yr angen i ailagor Culfor Hormuz.

Fe wnaeth y ddau drafod y sefyllfa wleidyddol a'r rhyfel yn y Gwlff am 20 munud ac roedd yn sgwrs adeiladol, yn ôl adroddiadau.

Fe wnaeth yr arlywydd feirniadu ymateb Syr Keir i'r rhyfel yr wythnos diwethaf, gan ddweud nad oedd prif weinidog Prydain "ddim fel Winston Churchill".

Mae gweinidogion wedi dweud na fydd Prydain yn cael ei llusgo i ryfel ehangach yn y Dwyrain Canol, ond mae ymosodiad taflegrau Iran ar y ganolfan filwrol yr Unol Daleithiau a'r DU, Diego Garcia, wedi dangos y gallai Ewrop fod o fewn cyrraedd.

Dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fod gan Iran y gallu i enhangu'r ymosodiadau i wledydd tu hwnt i'r Dwyrain Canol.

Dywedodd wrth ohebwyr: "Rydw i wedi bod yn rhybuddio hyn drwy'r amser. Mae ganddyn nhw'r gallu nawr i gyrraedd yn ddwfn i Ewrop.

"Maen nhw eisoes wedi tanio ar wlad Ewropeaidd, Cyprus.

"Mae ganddyn nhw bawb yn eu golwg."

 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.