Teirawr o gyfryngau cymdeithasol i blant yn 'fwy tebygol o achosi problemau iechyd meddwl'
Mae plant sydd yn treulio mwy na thair awr y dydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl pan yn eu harddegau meddai gwaith ymchwil newydd.
Yn ôl arbenigwyr mae'r berthynas rhwng y llwyfannau hyn ac iechyd meddwl yn "gymhleth" gyda'r effeithiau mwyaf o ganlyniad i darfu ar eu cwsg.
Fe wnaeth yr astudiaeth hefyd ddarganfod bod y cysylltiad rhwng y cyfryngau cymdeithasol ac iselder yn gryfach ymhlith merched.
Er mwyn cynnal yr astudiaeth fe edrychodd ymchwilwyr yng Ngholeg Imperial Llundain ar ddata Scamp. Data yw hwn sydd yn edrych ar effaith hirdymor defnydd o ffonau symudol a thechnoleg heb wifrau.
Cafodd ei sefydlu yn 2014.
Fe aethon nhw ati i ddadansoddi data 2,350 o blant o 31 o ysgolion ar draws Llundain.
Roedd yn rhaid i bobl ifanc lenwi holiadur ar y ffordd roedden nhw yn ymddwyn yn ddigidol, eu hiechyd meddwl a'u ffordd o fyw. Fe gafon nhw hefyd brofion sgiliau ymennydd.
Digwyddodd hyn pan oedden nhw yn 11 neu 12 oed ac eto pan oedden nhw rhwng 13-15 oed.
Cwsg
Y casgliad oedd bod plant oedd yn treulio mwy na thair awr y dydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o gael symptomau o iselder a gorbryder yn eu harddegau nag oedd y rhai oedd yn treulio 30 munud y dydd ar y llwyfannau hyn.
Yr awgrym yw y gallai hyn fod o achos eu bod yn cysgu llai, yn enwedig ar nosweithiau ysgol a'u bod yn mynd i gysgu yn hwyrach.
Dywedodd Dr Chen Shen o ysgol iechyd cyhoeddus y coleg bod y berthynas yn un "gymhleth".
"Dyw hi ddim mor syml a dweud bod defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn uniongyrchol yn achosi iechyd meddwl gwael mewn plant fel y cysylltiad uniongyrchol sydd wedi ei sefydlu rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint er enghraifft.
"Ond rydyn ni yn gweld bod plant sydd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am fwy o amser na ryw lefel pan maen nhw ym mlwyddyn 7 yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl pan maen nhw ym mlwyddyn naw a 10.
"Rydyn ni yn credu mai'r ffactor mwyaf am hynny yw bod cwsg yn cael ei amharu am gyfnod hir."
Mae ymchwilwyr yn dweud bod angen astudiaethau sydd yn defnyddio data mwy diweddar am fod pethau wedi newid yn y byd cyfryngau cymdeithasol ers i'r data gael ei gasglu rhwng 2014 a 2018.
Mae'r canfyddiadau wedi eu cyhoeddi yng nghylchgrawn BMC Medicine.
Llun: Danny Lawson/PA