Cynnydd mewn dwyn olew gwresogi yn y gogledd

olew

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio trigolion mewn dwy sir yn y gogledd i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau am gynnydd mewn dwyn olew gwresogi.

Daw'r rhybudd yn dilyn nifer o achosion o ddwyn olew yn siroedd Gwynedd a Môn.

Mae pris olew gwresogi wedi cynyddu'n aruthrol ers dechrau'r ymladd yn y Dwyrain Canol ychydig dros dair wythnos yn ôl.

Yn ôl swyddogion yr heddlu, mae adroddiadau am ddwyn olew wedi bod yn ardaloedd Pwllheli, Cricieth, Caernarfon, Amlwch a Rhosneigr.

Mae'r achosion wedi digwydd dros gyfnod o dri mis meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Dylai pobl sydd yn berchen ar danc olew gymryd nifer o gamau meddai'r heddlu, gan gynnwys cuddio lleoliad y tanc os yn bosib. gosod clo ar gap y tanc, diogelu'r tanc mewn cawell, gosod mesurydd diogelwch gerllaw, a chael golau cyfagos ger lleoliad y tanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.