Tro ar fyd i'r tecawê traddodiadol wrth i arferion bwyta newid

Just Eat

Mae cwmni darparu prydau tecawê wedi edrych ar y prydau mwyaf poblogaidd y maen nhw'n eu cludo i gwsmeriaid, gan ddweud fod arferion bwyta pobl wedi newid ers iddyn nhw sefydlu eu gwasanaeth ym Mhrydain 20 mlynedd yn ôl.

Bellach mae cyw iâr wedi'i ffrio yn y dull Coreaidd a Pad Thai ymysg y 10 hoff brydau tecawê cwsmeriaid Just Eat.

Dywedodd y cwmni fod tueddiadau cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn allweddol ar ddylanwadu dewis pobl o brydau bwyd gwahanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod tueddiadau iechyd a lles hefyd wedi dylanwadu ar archebion cwsmeriaid ar y platfform.

Ar ôl dechrau gyda dim ond dewis o saith pryd bwyd gwahanol 20 mlynedd yn ôl - prydau Eidalaidd a phitsa, bwyd Indiaidd, byrgyrs, prydau Tsieineaidd, Kebabs, pysgod a sglodion, a chyw iâr - dywedodd Just Eat ei fod bellach yn cynnig mwy na 100 o ddewisiadau gwahanol.

Roedd rhain yn cynnwys bwyd Bangladeshaidd, prydau o Brasil, rhai Groegaidd a Nepalaidd hefyd.

Mae rhai prydau oedd yn ffefrynnau gan gwsmeriaid yn 2006, fel kebab, pysgod a sglodion a chyri chyw iâr korma wedi disgyn allan o'r 10 pryd mwyaf poblogaidd, a chael eu disodli gan brydau fel cyw iâr wedi'i ffrio yn y dull Coreaidd, sglodion wedi'u llwytho a Pad Thai.

Dywedodd Leigh Phillipson, cyfarwyddwr masnachol Just Eat, fod y wefan wedi gweld llwyfannau cymdeithasol fel TikTok “yn cael effaith gwirioneddol ar boblogrwydd archebion, gyda prydau Coreaidd yn gweld twf aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil rhaglenni fel Squid Game a cherddoriaeth gan Blackpink”.

Ychwanegodd: “Mae prydau y byddai’r rhan fwyaf o Brydeinwyr yn 2006 yn drysu amdanynt, fel diodydd matcha a ffibr, yn tyfu'n sydyn yn unol â thueddiadau iechyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.