Cwblhau'r gwaith o drydaneiddio cledrau'r Cymoedd

bae caerdydd.jpg

Mae'r gwaith o drydaneiddio llinellau craidd cymoedd de Cymru bellach wedi ei gwblhau. 

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod yr Offer Llinell Uwchben (OLE) ar y rhan 800 metr olaf rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd bellach wedi ei gwblhau a'i brofi. 

Mae llinellau craidd y cymoedd yn cynnwys llinellau Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Coryton, Llinell y Ddinas, Rhymni a Bae Caerdydd.

Y gwanwyn hwn, fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno'r cyntaf o'i 36 trên tram Dosbarth 398 cwbl drydan. 

Fe fydd y rhain yn gweithredu i ddechrau rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd, ac yn ôl Trafnidiaeth Cymru, fe fydd yn darparu gwasanaethau "gwyrddach a mwy aml" fel rhan o Fetro De Cymru. 

Ers i'r gwaith ddechrau yn 2020, mae 281.5 milltir o wifrau uwchben wedi eu gosod a dros 3,100 o byst dur ac 8,200 o rannau dur bach wedi'u gosod i ddal y gwifrau yn eu lle.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae hwn yn foment pwysig i reilffyrdd yn Ne Cymru. O'r diwedd, rydym yn gweld ein huchelgais yn dod yn realiti diolch i'n buddsoddiad digynsail o fwy na £1bn i drawsnewid y Cymoedd, gyda £800 miliwn ar drenau newydd, a blynyddoedd o waith caled ac ymrwymiad gan TrC.

"Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol arall ar ein cenhadaeth i drawsnewid ein rheilffyrdd."

Ychwanegodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio'n fawr gan y gwaith ar adegau. Byddant nawr yn gallu elwa o fanteision y gwelliannau trwy wasanaethau cyflymach, gwyrddach, amlach a dibynadwy."

Gyda'r rhwydwaith bellach wedi ei drydaneiddio yn llawn ac yn fyw, mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa cymunedau o beryglon tresmasu ger y rheilffordd, ac yn annog teithwyr a thrigolion i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw bryderon trwy anfon neges destun at 61016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.