Rhyddhau tri ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn yn Nhredegar
Mae tri dyn a gafodd eu harestio ar ôl ffrwgwd honedig yng nghanol Tredegar, Blaenau Gwent wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Roedd y dynion yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi marwolaeth dyn 36 oed o Dredegar yn ystod oriau mân fore Sadwrn diwethaf.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau â'u hymchwiliad er mwyn darganfod yr amgylchiadau'n llawn.
Mae unrhyw un a oedd yn ardal Stryd y Castell, gyferbyn â Gwesty'r Castell a siop emwaith Jem, rhwng 01.00 a 02.00 ar 7 Mawrth yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Gwent.
