Rhybudd bod toriadau'r BBC yn bygwth dyfodol darlledu yng Nghymru

Llun: TAC
Llyr Morus TAC - BBC

Mae toriadau i BBC Cymru Wales ac ansicrwydd ynghylch cyllid yn bygwth dyfodol y diwydiant darlledu yng Nghymru, yn ôl corff sy'n cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol.

Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn galw am weithredu brys i ddiogelu darlledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Maent yn rhybuddio y gallai toriadau pellach gael effaith ddifrifol ar ddiwydiannau creadigol Cymru.

Daw'r rhybudd yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan BBC Cymru Wales am gynlluniau i dorri 58 o swyddi, lleihau 20 awr o raglenni teledu yng Nghymru a chanslo nifer o raglenni radio.

Yn ôl TAC, mae effaith y penderfyniadau hyn eisoes yn dechrau cael ei theimlo gan rai cwmnïau cynhyrchu. Mae pryderon y bydd llai o gyfleoedd i gynhyrchu rhaglenni yn rhoi pwysau pellach ar y sector.

Mae'r corff masnach, sy'n cynrychioli dros 60 o gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, hefyd yn pryderu am yr ansicrwydd ynghylch cyllid S4C i'r dyfodol ac adolygiad presennol Siarter y BBC.

Doedd BBC Cymru ddim am ymateb i sylwadau TAC.

'Pryderus iawn'

Dywedodd Cadeirydd TAC, Llyr Morus, fod y diwydiant yn wynebu heriau sylweddol.

"Mae'r cyhoeddiadau diweddar gan BBC Cymru Wales yn bryderus iawn, yn enwedig ar adeg pan mae cwmnïau cynhyrchu eisoes yn wynebu pwysau cynyddol a llai o gyfleoedd comisiynu," meddai.

"Mae angen mwy o sicrwydd arnom am ddyfodol buddsoddiad darlledu yng Nghymru, ochr yn ochr ag ymrwymiadau cadarn i ddiogelu ystod ac ansawdd y rhaglenni a gynhyrchir yma.

"Wrth i ni agosáu at adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC, mae'n hanfodol nad yw buddiannau cynulleidfaoedd Cymru a chynhyrchwyr annibynnol yn cael eu hanwybyddu."

Cyllid S4C

Mae TAC yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg a chynaliadwy ar gyfer darlledu yng Nghymru, gan gynnwys setliad hirdymor i S4C.

Mae aelodau'r corff yn cynhyrchu bron yr holl gynnwys teledu a chyfryngau ar-lein gwreiddiol i S4C.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ym mis Medi, fe wnaeth Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, bwysleisio'r angen am fwy o sicrwydd ariannol er mwyn cynllunio rhaglenni i'r dyfodol.

Yn ystod yr un sesiwn, fe wnaeth Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales, Garmon Rhys, rybuddio bod y darlledwr yn wynebu'r posibilrwydd o ddirywiad wedi'i reoli heb ddiwygio ffi'r drwydded.

Image
Heledd Fychan

Daw'r rhybudd wrth i Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, fynegi pryder yn y Senedd ddydd Mawrth am y toriadau sy'n wynebu'r BBC yng Nghymru.

"Dw i isio pwysleisio pa mor ddifrifol ydy'r toriadau mae'r BBC yn eu hwynebu o ran Cymru, a dylen ni i gyd fod yn bryderus dros ben," meddai.

Fe ychwanegodd y byddai'n cyfarfod â Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn ddiweddarach y mis hwn, gan obeithio cael cefnogaeth y Senedd i bwysleisio bod angen sicrwydd ynghylch dyfodol cefnogaeth y Senedd i'r BBC.

Wrth drafod sefyllfa'r cyfryngau yng Nghymru yn ehangach, fe ddywedodd Ms Fychan ei bod yn "fregus dros ben". Fe ychwanegodd bod darlledwyr fel S4C, y BBC a Channel 4 wedi chwarae "rôl eithriadol o bwysig" wrth geisio llenwi'r bylchau sydd wedi'u creu wrth i bapurau newydd lleol grebachu.

Daw datganiad TAC cyn cynhadledd S4C x TAC, Adlewyrchu Cymru, sy'n cael ei chynnal yn Llandudno ddydd Mercher a dydd Iau.

Bydd cynrychiolwyr S4C a BBC Cymru Wales yn ateb cwestiynau gan gwmnïau cynhyrchu yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC, cyn y gynhadledd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.