Rhybudd melyn am rew i Gymru gyfan

Rhybudd tywydd 13/02

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i Gymru gyfan nos Wener. 

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 17:00 nos Wener tan 10:00 fore Sadwrn. 

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r amodau arwain at anafiadau yn sgil arwynebau rhewllyd a mannau rhewllyd ar lonydd, palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin. 

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y dylid cynllunio i adael y tŷ o leiaf pum munud yn gynharach na'r arfer gan bod peidio â gorfod rhuthro yn lleihau'r risg o ddamweiniau, llithro a chwympo.

Os yn gwneud taith ar droed, mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori i ddefnyddio palmentydd ar hyd priffyrdd sy'n debygol o fod yn llai llithrig. 

Os yn beicio, dylid cadw at briffyrdd sy'n fwy tebygol o fod wedi cael eu trin yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.