Rhybudd melyn am niwl trwchus i rannau o ddwyrain Cymru nos Lun

Niwl 9 Tachwedd

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl ar gyfer rhannau o ddwyrain Cymru nos Lun.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 18:00 nos Lun ac yn parhau tan 11:00 fore Mawrth.

Daw hyn yn dilyn rhybudd melyn arall am niwl a oedd mewn grym nos Sul a bore dydd Llun.

Fe allai’r niwl fod yn drwchus ar adegau, gan olygu mai dim ond 100 metr neu lai fydd pobl yn gallu ei weld o’u blaenau.

Mae’r rhybudd diweddaraf yn berthnasol i rannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai teithiau gymryd mwy o amser na’r arfer, gyda’r posibilrwydd o oedi i wasanaethau bysiau a threnau.

Mae posibilrwydd hefyd y gallai rhai hediadau gael eu gohirio neu eu canslo.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd niwl ar ei fwyaf trwchus yn ystod y nos.

"Mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at oedi i drafnidiaeth ac yn creu amodau teithio anodd," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

"Bydd y niwl yn teneuo ac yn clirio yn ystod bore dydd Mawrth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.