Beiciwr modur a fu farw ar ôl disgyn i'r môr wedi cael anafiadau difrifol i'w ben

Y Gogarth

Bu farw beiciwr modur 19 oed ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben ac anafiadau eraill, ar ôl iddo ddisgyn i'r môr yn dilyn gwrthdrawiad ar y Gogarth yn Llandudno, clywodd cwest.

Bu farw Filip Szwarnog-Stepien, achubwr bywyd o Ffordd Bodnant yn Llandudno, ar 30 Hydref, yn fuan ar ôl cyrraedd Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Wrth agor cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun, dywedodd Kate Robertson, crwner cynorthwyol dros Ddwyrain a Chanol Gogledd Cymru, fod y dyn ifanc wedi bod yn gyrru ei feic modur ger penrhyn y Gogarth cyn iddo fod mewn gwrthdrawiad a disgyn i'r môr.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau.

"Mae'r cwest yn cael ei ohirio hyd nes y bydd ymchwiliadau pellach wedi'u cwblhau," meddai'r crwner.

Mae tri dyn ifanc wedi cael eu harestio a'u rhyddhau mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Teyrngedau

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Mr Szwarnog-Stepien yn dilyn ei farwolaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw am 22:31 nos Iau, 29 Hydref, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur du ar Ffordd Forol y dref, tua milltir o'r Tŷ Tollau i gyfeiriad copa'r Gogarth.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, fe syrthiodd y beiciwr modur i'r môr islaw'r Gogarth.

Cafodd ei dynnu o'r dŵr a'i gludo mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd clwb nofio Nofio Conwy fod Mr Szwarnog-Stepien wedi bod yn aelod o'r clwb am flynyddoedd lawer.

"Er iddo adael y clwb wrth iddo dyfu’n hŷn a dechrau pennod newydd yn ei fywyd, ni chafodd ei anghofio erioed gan y rhai oedd yn ei adnabod.

"Roedd yn nofiwr gwych, ond yn bwysicach fyth, roedd yn ddyn ifanc hynod garedig – yn gwrtais, yn garedig, yn barchus, ac yn rhywun yr oedd pawb o’i gwmpas yn ei hoffi.

"Bydd Filip bob amser yn cael ei gofio fel rhan o deulu Nofio Conwy. 

Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod ac a’i carai, yn ystod y cyfnod anodd anhygoel hwn. Mae Nofio Conwy yn dy gofio, Filip."

Digwyddiad er cof amdano

Cafodd digwyddiad ei gynnal fore dydd Llun ym mhwll nofio Llandudno er cof am Mr Szwarnog-Stepien.

Dywedodd Nofio Conwy bod y digwyddiad wedi' gynnal cyn dechrau Pencampwriaethau Rhanbarthol Nofio Cymru yn y pwll.

"Hoffem estyn gwahoddiad i unrhyw nofwyr – o’r gorffennol neu’r presennol – hyfforddwyr, teuluoedd, ffrindiau, neu unrhyw un a oedd yn adnabod Filip ac a hoffai fod yn bresennol. 

"Mae croeso mawr i chi ymuno â ni wrth i ni dreulio eiliad gyda’n gilydd i’w gofio a dathlu ei fywyd," meddai trefnwyr cyn y digwyddiad.

Cafodd teyrnged ei rhoi hefyd i Filip Szwarnog-Stepien ar y cyfryngau cymdeithasol gan gampfa yn Llandudno.

Dywedodd Ignite Gym yn ei neges: "Gyda thristwch mawr rydym yn cofio un o’n haelodau hirsefydlog, Filip Szwarnog-Stepien.

"Roedd Filip yn wyneb cyfarwydd yn ein campfa; roedd wrth ei fodd yn ymarfer ac yn bresennol bron bob dydd. Roedd ei wên heintus bob amser yn goleuo’r lle.

"Roedd yn fwy nag aelod yn unig; roedd yn rhan o deulu ein campfa, a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith ein staff a’n haelodau fel ei gilydd.

"Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Filip, a phawb oedd yn ei adnabod a'i garu, yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.