Rhybudd am losgiadau barbeciws ar draethau ar ôl i bobl gael eu cludo i’r ysbyty  

barbeciw (pixabay)

(Rhybudd: Cynnwys delweddau meddygol)

Mae arbenigwyr meddygol wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus pan yn cerdded ar draethau ar ôl cynnau barbeciws.

Mae nifer o bobl wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Abertawe wedi llosgi gwaelod eu traed ar ôl cerdded ar dywod poeth lle oedden nhw wedi cynnau barbeciws.

Dywedodd llefarydd o Ysbyty Treforys fod rhai o’r dioddefwyr wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ac wedi “wynebu misoedd o boen ac adferiad ar ôl i wres poeth eu gadael gydag anafiadau difrifol”.

Mae Canolfan Llosgiadau Ysbyty Treforys wedi cyhoeddi rhybudd i bobl led Cymru sy'n ystyried mwynhau coginio yn yr awyr agored.

Dywedodd arbenigwyr yr uned fod perygl oherwydd y ffordd y mae tywod yn cadw tymereddau uchel hyd yn oed pan fydd barbeciws tafladwy wedi'u gwaredu'n gyfrifol.

Nid oedd Sam Knight yn gallu cerdded am bythefnos ar ôl llosgi ei hun yn dilyn barbeciw teuluol yng Nghefn Sidan, Sir Gâr, yn gynharach eleni.

Dywedodd Sam, sy’n 27 oed: “Pan oeddwn wedi gorffen nes i symud y barbeciw i un ochr a’i ddiffodd, felly ro’n i’n meddwl ei fod yn ddiogel.

“Ond roedd y darn o dywod yr oedd wedi bod arno yn dal i ferwi, ac ar ôl i mi gamu arno roedd rhaid i fi gael fy nghario oddi ar y traeth. Ac roedd y llosg mor ddwfn roedd rhaid mynd i’r uned losgiadau yn Nhreforys.

“Doeddwn i ddim yn gallu cerdded am gwpl o wythnosau felly roedd rhaid i mi gymryd pythefnos i ffwrdd o’r gwaith.”

Image
Sam Knight
Roedd Sam Knight wedi llosgi ei draed ar ôl cerdded ar dywod poeth

Ar ôl gwella fe aeth Sam, sy’n beirianydd mecanyddol, yn ôl i’r traeth i gynnal arbrawf.

Fe daniodd farbeciw a phan fesurodd y tywod oddi tano, cofnododd dymheredd o 244°. 

Image
Sam Knight
Roedd Sam Knight wedi cynnal arbrawf i fesur tymheredd uchel y tywod

Cafodd Melanie Holbrook yr un profiad ar draeth Bae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr.

Roedd hi wedi camu ar dywod lle roedd barbeciw wedi bod gan deimlo poen o dan ei thraed.

Roedd hi a'i theulu wedi defnyddio barbeciw tafladwy ac wedi cael gwared arno'n synhwyrol i'w wneud yn ddiogel.

Ond fe gamodd ar y tywod lle'r oedd y barbeciw wedi bod, gan deimlo poen ofnadwy ar unwaith o dan ei thraed.

Dywedodd: “Pan edrychais, roedd gwaelodion fy nhraed wedi llosgi’n felyn.

“Roedd gwres y barbeciw wedi mynd yn syth i’r tywod. 

“Roedd y croen ar fy nhraed wedi pothellu’n ddrwg ac roedd rhaid ei dynnu. Cefais wythnosau o driniaeth, gyda newidiadau rhwymynnau ac archwiliadau rheolaidd. Fyddwn i ddim yn dymuno’r boen honno i unrhyw un.

“Cymerodd wythnosau i’r croen ar fy nhraed wella a chymerodd tua phedwar i bum mis cyn i mi allu cerdded yn iawn eto ac rwy’n dal i gael rhywfaint o sensitifrwydd hyd yn oed nawr.”

Diogelwch cyhoeddus

Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol, Jeremy Yarrow, fod adolygiad diweddar o ddata o'r Gronfa Ddata Anafiadau Llosgiadau Rhyngwladol (IBID) yn tynnu sylw at “gynnydd pryderus a pharhaus” mewn anafiadau tafladwy sy'n gysylltiedig â barbeciw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd: “Fel arbenigwyr gofal llosgiadau ar y rheng flaen rydym yn cyhoeddi apêl diogelwch cyhoeddus frys ynghylch perygl haf difrifol y gellir ei atal yn llwyr: anafiadau llosgiadau thermol a achosir gan farbeciws tafladwy ar ein traethau.

“Er bod llawer yn cysylltu barbeciws â fflamau agored, mae cyfran sylweddol o’r anafiadau difrifol rydyn ni’n eu trin yn yr ysbyty yn deillio o berygl anweledig: tywod wedi’i orboethi o dan y gril.

“Mae tywod yn amsugno gwres dwys o farbeciws tafladwy, gan gyrraedd tymereddau hyd at 400°C sy'n parhau am oriau ar ôl i'r uned barbeciw ei hun gael ei thynnu neu ei diffodd."

Mae arbenigwyr yn yr uned losgiadau yn rhoi’r cyngor canlynol:

Codwch y barbeciw oddi ar y tywod. Peidiwch byth â gosod barbeciw tafladwy yn uniongyrchol ar y traeth; 

  • Oerwch y barbeciw a'r tywod gyda dŵr ar ôl i chi orffen coginio
  • Cael gwared ar y barbeciw wedi'i oeri yn ddiogel trwy ei roi mewn bin lludw poeth dynodedig neu ei gymryd adref gyda chi
  • Os bydd damwain yn digwydd, mae cymorth cyntaf ar unwaith a chywir yn hanfodol i wella canlyniadau clinigol a lleihau dyfnder y llosg. Cofiwch y 3 pheth hyn:
  • Oerwch y llosgiad o dan ddŵr sy’n rhedeg
  • Ffoniwch 999 mewn argyfyngau neu GIG 111 am gyngor clinigol.
  • Gorchuddiwch y clwyf yn llac gyda ffilm glynu glân i amddiffyn y croen sydd wedi'i ddifrodi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.