Rhybudd y gallai colli mynediad at gasgliadau Cymreig o lyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd fod yn ‘drychineb’
Mae cyn-lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhybuddio y gallai colli mynediad at gasgliadau Cymreig pwysig yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd fod yn “drychineb”.
Pryder rhai yw bod yna gynlluniau i greu man addysgu a seminarau newydd ar lawr uchaf Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, neu ASSL.
Mae Andrew Green yn dweud fod hynny yn “gam gwag, cam gwael iawn iawn”.
Ond yn ôl Prifysgol Caerdydd dyw'r cynlluniau ar gyfer ASSL ddim wedi’u cwblhau. Maent hefyd wedi gwrthod awgrymiadau y byddai “pob llyfr” yn cael ei symud neu y gallai llyfrau gael eu gwaredu.
Mae Newyddion S4C ar ddeall y gallai rhai llyfrau gael eu symud i lyfrgell arall dros yr haf, lle na fyddai’r un mynediad cyhoeddus ar gael.
Daw hynny wrth i ddeiseb yn galw ar y brifysgol i “achub ail lawr” y llyfrgell gyrraedd 5,000 o lofnodion.
Mae’r ddeiseb yn honni y gallai’r cynllun arwain at symud llyfrau a mannau astudio, gan effeithio ar gasgliadau mewn meysydd fel hanes, cerddoriaeth, celf, iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chasgliadau llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd a Chasgliad Salisbury.
Mae Casgliad Salisbury yn gasgliad o lyfrau astudiaethau Cymreig a fu’n eiddo i Enoch Robert Gibbon Salisbury. Yn ôl Prifysgol Caerdydd, casglodd tua 13,000 o lyfrau yn Gymraeg, neu yn ymwneud â Chymru a’r Gororau, cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae e-bost at staff, sydd wedi cael ei weld gan Newyddion S4C, yn dweud bod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cymeradwyo cynllun gan adran Ystadau’r brifysgol i greu man addysgu a seminarau newydd ar gyfer tua 160 o fyfyrwyr.
Yn ôl yr e-bost, byddai’r gofod newydd ar lawr uchaf ASSL, gan gynnwys yr ardal lle mae casgliadau’r llyfrgell yn cael eu cadw ar hyn o bryd.
Mae’r e-bost hefyd yn cyfeirio at symud casgliadau printiedig o’r llawr uchaf. Gallai gwaith ddechrau tua diwedd mis Mehefin meddai'r e-bost, gyda’r gofod newydd yn weithredol ym mis Ionawr 2027.
‘Cam yn ôl’
Dywedodd Andrew Green fod casgliadau printiedig yn parhau i fod yn berthnasol.
“Dyw e ddim yn wir fod pob peth yn y byd wedi cael eu digido,” meddai.
“Mae llawer o bobl, staff, myfyrwyr, pobl tu allan, yn dibynnu ar y casgliadau printiedig.”
Gan gyfeirio at gasgliadau Cymreig a Cheltaidd y llyfrgell, dywedodd eu bod yn cynnwys “y casgliad mwyaf arwyddocaol tu allan i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth o lyfrau a stwff eraill am Gymru a’r byd Celtaidd”.
“Os na fydd unrhyw fynediad gan y cyhoedd yn arbennig i’r casgliadau hyn, wel, mae’n mynd i fod yn drychineb,” meddai.
Dywedodd Mr Green hefyd fod staff llyfrgelloedd yn hollbwysig wrth sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio deunyddiau printiedig, archifau a llyfrau prin.
“Mae’r llyfrgell o hyd yn galon y Brifysgol,” meddai.
Ychwanegodd y byddai’n “golled enfawr” pe bai’r casgliadau’n cael eu cau i ffwrdd neu’n diflannu.
Pryderon am fynediad
Dywedodd yr aelod o staff wrth Newyddion S4C fod pryderon penodol ynghylch ble y byddai’r casgliadau’n cael eu symud pe bai’r cynllun yn cael ei weithredu.
Dywedodd fod awgrymiadau y gallai rhai llyfrau gael eu symud i lyfrgell arall dros yr haf, lle na fyddai’r un mynediad cyhoeddus ar gael.
Y pryder, meddai, yw na fyddai aelodau’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y casgliadau pe byddent yn cael eu symud yno.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Brifysgol Caerdydd a fyddai unrhyw gasgliadau Cymraeg Modern neu Astudiaethau Celtaidd yn cael eu symud, ac a oedd symud casgliadau i lyfrgell arall yn cael ei ystyried.
Ni wnaeth y Brifysgol ateb y cwestiynau penodol hynny.
‘Heb ymgynghori ystyrlon’
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu bod wedi cael “sioc” wrth glywed am y gwaith ailddatblygu arfaethedig.
Dywedodd yr Undeb y byddai’r gwaith yn achosi “newid sylfaenol” i’r ffordd mae ASSL yn gweithredu, y mannau fydd ar gael i fyfyrwyr, a’r gwasanaethau a’r adnoddau llyfrgell sydd ar gael.
“Er nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud eto, mae’r cynigion wedi cyrraedd y pwynt hwn heb ymgynghori ystyrlon â staff a myfyrwyr,” meddai’r datganiad.
Dywedodd yr Undeb eu bod yn galw am fwy o dryloywder ac eglurder gan y Brifysgol, ac am sicrwydd clir ynghylch profiad myfyrwyr.
Dywedodd yr Undeb hefyd fod swyddogion sabothol wedi ysgrifennu at yr Is-ganghellor, ac wedi derbyn ymrwymiad i gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Ymateb y Brifysgol
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd nad oedd y cynlluniau wedi’u cwblhau.
Dywedodd y llefarydd na fyddai’r Brifysgol yn tynnu “pob llyfr”, ac nad oedd yr awgrym y gallai llyfrau gael eu gwaredu yn gywir.
Dywedon nhw eu bod yn edrych ar greu gofod dysgu newydd ar y campws fel cynllun peilot, er mwyn gweld a allai wella profiad dysgu myfyrwyr.
Dywedodd y llefarydd fod ASSL yn un lleoliad sy’n cael ei ystyried, ond ei bod yn “bwysig pwysleisio nad yw’r cynlluniau wedi’u cwblhau”.
“Pe bai’r cynllun peilot hwn yn mynd rhagddo yn ASSL, byddem wrth gwrs yn gweithio gyda’r llyfrgell ac â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr, drwy gydol y broses,” meddai.
Dywedodd y Brifysgol y byddai mannau astudio eraill yn cael eu darparu i fyfyrwyr os nad oedden nhw’n gallu defnyddio rhai mannau presennol dros dro.

