'Nid Covid arall': Risg o Ebola yn lledaenu i Gymru yn 'isel iawn' yn ôl arbenigwr
Mae’r risg o Ebola yn lledaenu i Gymru a’r DU yn "isel iawn", yn ôl arbenigwr iechyd cyhoeddus.
Daw sylwadau Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe wrth i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan argyfwng iechyd rhyngwladol.
Mae hyn yn sgil yr achosion diweddar yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn Affrica.
Yn ôl Dr Simon Williams mae'r feirws yn "wahanol iawn i Covid" gan nad yw'n lledaenu drwy'r aer.
Yn hytrach, mae'n dweud fod Ebola yn cael ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol â hylifau’r corff, sy’n golygu ei fod yn llawer anoddach i’w ledaenu.
"Y broblem gyda Covid oedd ei fod yn glefyd anadlol a wnaeth heintio llawer iawn o bobl yn gyflym," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae Ebola yn lledaenu’n wahanol iawn, yn bennaf drwy gyswllt agos mewn ysbytai, cartrefi neu wrth ofalu am bobl sydd yn sâl."
Er nad yw Ebola mor heintus â Covid, dywedodd Dr Williams fod y feirws yn llawer mwy difrifol i’r rhai sy’n ei ddal.
"Mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer y straen hwn tua 30%, sy'n uchel iawn - lot uwch na Covid," meddai.
"Felly er nad yw'n lledaenu mor hawdd, mae'n feirws difrifol iawn."
'Firysau ddim yn parchu ffiniau'
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae cyfradd marwolaethau Ebola wedi amrywio rhwng 25% a 90% mewn achosion blaenorol.
Mae'r niferoedd sydd o dan amheuaeth o fod wedi marw o'r achos diweddaraf o Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi bron â dyblu ers dydd Sadwrn. 500 o achosion a mwy na 130 o farwolaethau sydd wedi bod yn ôl yr asiantaeth iechyd.
Mae pryderon fod y straen hwn o'r feirws, sef Bundibugyo, wedi dechrau ymledu rhai wythnosau cyn iddo gael ei ddarganfod gyntaf ar 24 Ebrill.
Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn wynebu ei 17eg achos o Ebola, ond mae'r awdurdodau iechyd yno'n fwy cyfarwydd â straen Zaïre o’r feirws.
Dim ond dau achos blaenorol o’r straen Bundibugyo sydd wedi bod yn y wlad, gyda thua 30% o’r rhai gafodd eu heintio wedi marw.
Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus, wedi dweud fod Ebola yn lledaenu ar raddfa gyflym a bod hynny'n hynod o bryderus, gan nad oes brechlyn ar gyfer y straen hwn o'r feirws.
Nid oes erioed achos o Ebola wedi'i gofnodi yng Nghymru, gyda phedwar achos yn unig yn y DU ers 1976.
Yn ôl Dr Williams, mae achosion o Ebola fel arfer yn lledaenu mewn gwledydd "difreintiedig" lle mae diffyg adnoddau meddygol.
Mae'n dweud fod y DU mewn sefyllfa gryfach i reoli unrhyw achosion o'r feirws oherwydd bod systemau iechyd a mesurau rheoli heintiau ar waith.
"Hyd yn oed petai rywun yn dychwelyd i’r DU gydag Ebola - er enghraifft rhywun sydd wedi ymweld â'r ardal ac wedi ei ddal a'i gludo'n ôl - byddai modd i'r DU ac Ewrop ymateb yn sydyn er mwyn cyfyngu’r lledaeniad," meddai.
Mae'n dweud fod yr achosion diweddaraf wedi codi pryderon newydd am bwysigrwydd cydweithio rhyngwladol.
"Dyw firysau ddim yn parchu ffiniau," meddai.
"Mae’n bwysig iawn bod gwledydd yn cydweithio ac yn helpu gwledydd fel Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo sydd yn delio ag achosion fel hyn oherwydd dydyn nhw ddim yn adnabod achosion yn ddigon sydyn."
Fe aeth ymlaen i ddweud fod gwybodaeth anghywir ar-lein yn gallu arwain at gamsyniadau.
"Mae’n bwysig cyhoeddi gwybodaeth sy'n codi ymwybyddiaeth, ond sydd ddim yn achosi panig i bobl," meddai.
"Dydy hwn ddim yn debygol o droi’n bandemig arall fel Covid."

