Clwb criced wedi 'digalonni' ar ôl gwerth £5,000 o ddifrod
Mae clwb criced yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi "digalonni" ar ôl gwerth £5,000 o ddifrod i'w cyfarpar.
Fe gafodd sgorfwrdd ei osod ar dân a dau roliwr - cyfarpar sydd yn paratoi’r cae - eu difrodi yng Nghlwb Criced yr Eglwys Newydd brynhawn ddydd Llun.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb ddioddef o ganlyniad i fandaliaeth, gyda digwyddiadau eraill yn y gorffennol, gan gynnwys pobl yn torri i mewn i'r clwb.
Dywedodd Matt Price, aelod o bwyllgor y clwb, bod cost y difrod yn "anferth" ac yn ergyd drom i glwb sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
"Rydym yn amcangyfrif bod cost y difrod tua £5,000, sydd yn swm eithaf sylweddol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'n anferth, mae unrhyw incwm yn mynd syth ’nôl i'r clwb, felly mae hyn am gael effaith fawr arnon ni.
"Mae cymaint o ymdrech yn mynd i mewn i godi arian ar gyfer cyfarpar newydd, felly mae rhywbeth fel hyn yn ddinistriol."
Dywedodd Heddlu De Cymru wrth Newyddion S4C eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad a bod ymholiadau'r llu yn parhau.
'Hollol dorcalonus'
Mae gan y clwb bedwar tîm dynion ac adran iau, ac maen nhw wrthi’n gweithio i greu tîm menywod.
Ar hyn o bryd maen nhw yn ceisio codi £25,000 er mwyn datblygu cyfleusterau'r clwb, gan gynnwys cyfarpar ymarfer newydd, a thoiledau hygyrch.
Ond mae'r difrod diweddar yn effeithio ar hynny, ac mae'r clwb yn "ofni" bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer cyfarpar newydd gyda'r pryder y bydd hwnnw’n cael ei ddifrodi hefyd.
"Mae'n hollol dorcalonnus bod y pethau yma yn parhau i ddigwydd i ni," meddai Matt.
"Heblaw am yr effaith feddyliol, mae hyn yn costio'n fawr i ni. Mae llawer o waith yn mynd i mewn i redeg clwb criced, ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ni ddefnyddio arian o'n cronfa wrth gefn.
"A nawr rydym yn ofni'r hyn rydym yn bwriadu ei adeiladu.
"Dwi wir yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu parchu gan bawb, ond dydych chi jyst ddim yn gwybod."
Ychwanegodd Matt y bydd y clwb yn ystyried camau diogelwch pellach ar ôl y fandaliaeth ddiweddar.
"Mae cyfleoedd i wella'r diogelwch, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd o ganlyniad i adeiladu tai ar hen safle Ysbyty'r Eglwys Newydd.
"Felly drwy hynny rydym yn gobeithio sicrhau gwelliant i'n system diogelwch ni, a bod hynny'n gallu digwydd yn fuan.
"Heblaw am hynny, rydym yn dibynnu ar ewyllys da pobl, gan gynnwys y rhai sy’n achosi'r difrod hwn.
"Mae'r heddlu'n ymchwilio, ond mae'n anodd dod o hyd i'r datrysiad perffaith i'r broblem sydd, yn anffodus, yn parhau i ddigwydd."

