Dyn oedd â chanser y prostad yn beirniadu’r llywodraeth am ‘lusgo’u sodlau’ dros wella trefniadau sgrinio

ITV Cymru
Kervin Julien
Kervin Julien

Mae dyn oedd â chanser y prostad wedi beirniadu’r llywodraeth am ‘lusgo’u sodlau’ dros wella trefniadau sgrinio ar gyfer y clefyd.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad. Mae tua 640 yn marw ohono. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, yr amcangyfrif yw y gallai nifer yr achosion godi i 4,244 y flwyddyn erbyn 2035, cynnydd o 18% rhwng 2025 a 2035.

Yn ddiweddar, fe wnaeth corff cynghori swyddogol y DU argymell yn erbyn cyflwyno sgrinio arferol i’r rhan fwyaf o grwpiau risg uchel. 

Mae’r penderfyniad yn deillio’n rhannol o bryderon am or-ddiagnosio,  sef canfod a thrin canserau sy’n tyfu’n araf ac na fyddent o bosibl wedi achosi niwed yn ystod oes y claf.

Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru. 

Fodd bynnag, i ddynion du fel Kervin Julien yn Nhre Biwt, mae’r risg bron ddwywaith yn uwch. Diolch i ddiagnosis cynnar, mae Kervin bellach yn iach ac yn benderfynol o sicrhau bod dynion eraill yn cael yr un cyfle.

'Ro’n i’n anwybyddu’r symptomau'

“Ro’n i wedi dechrau cael problemau ers rhai misoedd, fel trafferth dal dŵr, ond yn anffodus roeddwn i’n parhau i’w hanwybyddu,” meddai.

Mae ymchwil yn awgrymu mai dynion dros 70 oed sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan or-ddiagnosio. Er y gall triniaeth achosi sgîl-effeithiau, mae cefnogwyr sgrinio am y canser yn dadlau bod y manteision yn gorbwyso’r risgiau.

“Maen nhw’n profi am ddiabetes, lefelau siwgr a phob math arall o salwch,” meddai Kervin. 

“Ond y peth sydd wir yn effeithio arnom ni ac yn byrhau bywydau dynion yw canser y prostad.” 

Ar hyn o bryd, nid yw prawf gwaed antigen penodol i’r prostad (PSA) yn cael ei gynnig yn rheolaidd fel rhan o raglen sgrinio genedlaethol. Fodd bynnag, gall meddygon teulu ei gynnig os oes amheuaeth o ganser y prostad neu os yw claf mewn grŵp risg uwch.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad ar raglen sgrinio yn ddiweddarach y mis hwn. Gan fod iechyd wedi’i ddatganoli, gallai Llywodraeth Cymru ddewis mabwysiadu polisi gwahanol.

“Dw i’n rhwystredig gyda’ r llywodraeth, maen nhw’n llusgo’u sodlau,” ychwanegodd Kervin.

Y dyfodol

Mae elusennau’n dweud bod profion mwy targedig bellach yn fwy diogel ac yn fwy cywir nag erioed, gan gynyddu’r siawns o ganfod canserau ymosodol yn gynnar.

Mae’r argymhellion cenedlaethol presennol yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Er hynny mae ymgyrchwyr yn pwysleisio y gall canser y prostad gael ei ganfod flynyddoedd cyn i symptomau difrifol ddatblygu, gan wella’r siawns o driniaeth lwyddiannus.

Yn ôl elusennau fel Prostate Cymru mae angen gwell mynediad at brofion PSA i ddynion sydd mewn mwy o berygl, gan gynnwys dynion Duon a’r rhai sydd â hanes teuluol o’r clefyd.

Mae rhai elusennau hefyd yn dadlau na fyddai ehangu profion yn ormod o gost i’r gwasanaeth iechyd. Yn y cyfamser, maen nhw’n annog dynion i fod yn ymwybodol o’r symptomau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn ystyried yr argymhellion terfynol pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.