Pythefnos o drafodaethau wedi i aelodau undeb addysg fygwth streicio

Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru ac undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru wedi cytuno i bythefnos o drafodaethau dwys i geisio datrys anghydfod dros gyflogau, llwyth gwaith a chyllid ysgolion.

Bydd y trafodaethau dros y 14 diwrnod gwaith nesaf hefyd yn edrych ar gyllid darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ALN).

Daw’r cyhoeddiad chwe diwrnod ar ôl i undeb NAHT gyhoeddi bod 72.5% o’r aelodau a gymerodd ran mewn pleidlais yn barod i streicio os nad oedd cynnydd ystyrlon.

Roedd 93% yn barod i gefnogi gweithredu diwydiannol heb fynd ar streic. Fe wnaeth 74% o’r aelodau gymryd rhan yn y bleidlais.

Mewn datganiad ar y cyd, mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac NAHT Cymru yn dweud eu bod wedi cytuno i’r trafodaethau ar ôl cyfarfodydd ar 30 Medi a 5 Hydref.

Nid yw’n nodi unrhyw ddyddiadau ar gyfer gweithredu diwydiannol os yw’r trafodaethau yn methu.

“Mae'r partïon yn cydnabod bod y pryderon sy'n sail i'r anghydfod yn hirsefydlog ac yn gofyn am weithredu ar unwaith ac atebion tymor hir os yw arweinyddiaeth ysgolion i barhau i fod yn gynaliadwy ledled Cymru,” meddai’r datganiad ar y cyd.

Ystyried cytundebau cyflog dros sawl blwyddyn

Un o brif faterion yr anghydfod, yn ôl yr undeb, yw gwrthodiad Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn llawn, sef codiad o 4.25%.

Yn ôl y datganiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ffurfiol y posibilrwydd o gytundebau cyflog dros sawl blwyddyn.

“Mae'r partïon yn cydnabod bod y pryderon sy'n sail i'r anghydfod yn hirsefydlog ac yn gofyn am weithredu ar unwaith ac atebion tymor hir os yw arweinyddiaeth ysgolion i barhau i fod yn gynaliadwy ledled Cymru,” meddai.

Yn ôl NAHT Cymru, mae hynny’n golygu y dylen nhw gael codiad cyflog sydd o leiaf yn gyfartal â’r un yn Lloegr.

Pryderon am gyllid ADY

Bydd y trafodaethau hefyd yn ystyried y pwysau presennol ar gyllid y system anghenion dysgu ychwanegol a sut i’w chynnal yn y tymor hir.

Mae’r undeb wedi codi pryderon am faint o arian sydd ar gael, sut mae’n cael ei ddosbarthu a pha mor dryloyw yw’r trefniadau.

Nid oes arian ychwanegol wedi’i gyhoeddi yn y datganiad.

Roedd faint o arian oedd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wrth galon anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a’r Blaid Lafur wrth drafod y gyllideb atodol a fethodd ym mis Gorffennaf.

Wrth gyhoeddi canlyniad y bleidlais ar weithredu yn ddiwydiannol chwe diwrnod yn ôl, dywedodd llywydd NAHT Cymru, Kerina Hanson, fod aelodau wedi “siarad yn glir”.

“Mae arweinwyr ysgolion wedi treulio blynyddoedd yn camu i mewn lle mae eraill wedi camu’n ôl,” meddai.

“Maen nhw wedi ysgwyddo’r pwysau, gwneud yn iawn am ddiffygion cyllido ac ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol. Mae’r canlyniad hwn yn dweud wrthym fod amynedd yn rhedeg allan.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol NAHT, Paul Whiteman, nad oedd yr anghydfod yn ymwneud â chyflog yn unig, ond hefyd â’r adnoddau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a dyfodol y proffesiwn.

Mae’r datganiad diweddaraf yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a NAHT Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gweithio’n gyflym i geisio dod i gytundeb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.