Pwllheli: Chwilio am ddau ddyn oedd ger traeth gyda kayaks

Hafan
Mae Gwylwyr y Glannau a'r heddlu wedi dechrau ymgyrch chwilio wrth geisio dod o hyd i ddau ddyn aeth i draeth yn Ngwynedd gyda kayaks aer.
 
Nid oes neb wedi gweld y ddau ddyn ers 48 o oriau, ac fe gafodd yr heddlu wybod am eu diflaniad ddydd Iau.
 
Y gred yw mai enwau'r ddau ddyn sydd ar goll yw “Simon a Connor”.
 
Fe gafodd y ddau eu gweld ddiwethaf ger y traeth wrth ymyl gwersyll Hafan Y Môr, Pwllheli, am 18:30 bnawn dydd Mawrth.
 
Dywedodd y Prif Arolygydd Ian Roberts o Heddlu'r Gogledd: "Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau ac yn chwilio yn yr ardal, gyda chymorth cydweithwyr o Wylwyr y Glannau.
 
"Os oeddech chi ar y traeth nos Fawrth, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddod o hyd i Simon a Connor, cysylltwch â ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.