Dros £3 miliwn i hybu cymunedau Cymraeg
Mae cyllid o £3.1 miliwn wedi ei addo “i gryfhau cymunedau Cymraeg ledled Cymru”.
Fe fydd hyn yn cynnwys £2.7 miliwn i uwchraddio canolfannau preswyl yr Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn, ynghyd â £400,000 drwy’r cynllun grant Perthyn i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned.
Nod y buddsoddiad yw “cryfhau cyfleusterau cymunedol, cefnogi economïau lleol a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol,” meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Urdd y bydd y cyllid yn galluogi datblygu cyfleusterau newydd ym Mhentre Ifan, er mwyn cynyddu capasiti’r ganolfan a chaniatáu i fwy o blant a phobl ifanc fwynhau’r profiad unigryw sydd ar gael yno.
Fe fydd pum swydd newydd yn cael eu creu yn yr ardal yn sgil hynny.
Ychwanegodd yr Urdd y bydd y buddsoddiad yng nghanolfannau Glan-llyn a Llangrannog yn gwella ansawdd llety ac yn ariannu Canolfan Bowlio Deg dan do newydd yng Nglan-llyn.
“Gyda’i gilydd bydd y datblygiadau hyn yn cyfoethogi profiad miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cryfhau gallu’r Urdd i wasanaethu cymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn,” meddai’r Urdd.
Cefnogi cyfleoedd gwaith
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Dros y degawdau mae ein canolfannau preswyl yn llefydd lle mae plant a phobl ifanc yn magu hyder, gwneud ffrindiau ac yn profi’r Gymraeg fel iaith fyw y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth wrth i ni weithio gyda’n gilydd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.
“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am helpu sicrhau parhad gwersylloedd yr Urdd fel canolfannau cynhwysol, diogel a blaengar am genedlaethau i ddod, ynghyd â chefnogi cyfleoedd gwaith a gweithgarwch economaidd yn y gymuned.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd y £400,000 o gyllid Perthyn yn cefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu mentrau cymdeithasol y mae’r Gymraeg yn ganolog iddynt, fel Canolfan Bethlehem yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan: "Mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a chefnogi’n cymunedau i ffynnu.
"P'un a yw'n creu swyddi, cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg, neu’n helpu cymunedau i ddatblygu cyfleusterau lleol, rydyn ni’n buddsoddi mewn llefydd sy'n cryfhau bywyd cymunedol ac yn cefnogi dyfodol ein hiaith."