Pryderon dros gau Canolfan Endometriosis fwyaf Cymru

ITV Cymru
Emrys Price-Jones

Mae deiseb i atal cau Canolfan Endometriosis Caerdydd a’r Fro wedi denu dros 11,000 o lofnodion, wrth i bryderon gynyddu am ddyfodol gwasanaeth arbenigol hanfodol i bobl sy’n byw gydag endometriosis.

Mae’r ganolfan, y fwyaf yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n benodol ar ofal endometriosis, mewn perygl o golli ei hachrediad gan Gymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain mor gynnar â mis Rhagfyr eleni.

Mae deiseb wedi ei lansio Emrys Price-Jones, sy’n dibynnu ar y ganolfan i gael y gofal sydd ei angen arnynt, mewn ymgais i atal y gwasanaeth rhag cau.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C fis diwethaf, mae Emrys, o Sir Gaerfyrddin, eisoes wedi trafod y heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth geisio cael triniaeth fel person traws.

"Dw i mewn poen drwy’r amser,” meddai Emrys, wrth ddisgrifio effaith endometriosis ar eu bywyd. 

“Dw i heb allu gweithio ers misoedd. Mae wedi cymryd drosodd fy mywyd, a dweud y gwir. 

"Heb y canolfannau yma, dw i ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud. Dw i eisoes ar restr aros frys, ond mae’r amser aros yn dair blynedd.”

Yn ôl cofrestr risg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, diffyg cyllid yw’r prif rwystr i gynnal y gwasanaeth, er bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol i fyrddau iechyd i weithredu’r Cynllun Iechyd Menywod fel rhan o gyllideb 2025/26.

Fel rhan o gyllideb y flwyddyn flaenorol, dyrannwyd £3 miliwn i fyrddau iechyd er mwyn gweithredu’r Cynllun Iechyd Menywod, cynllun deng mlynedd a lansiwyd i fynd i’r afael â’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau yng Nghymru. Dyrannwyd £750,000 ychwanegol hefyd i gefnogi prosiectau ymchwil ym maes iechyd menywod.

“Dw i’n ofnus, yn rhwystredig ac yn flin. O’n i’n meddwl bysa’r Cynllun Iechyd Menywod, yn golygu ein bod ni yn gallu canolbwyntio mwy ar faterion iechyd menywod, nid tynnu gofal oddi wrthyn nhw.”

'Mwy o arian ac arbenigedd'

Yn ôl data gan elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, mae endometriosis yn costio tua £400 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae diagnosis hwyr a diffyg arbenigedd yn parhau i fod yn heriau mawr i bobl sy’n byw gydag endometriosis.

"Mae diagnosis yn cymryd blynyddoedd,” ychwanegodd Emrys. “Mae gwir angen hyfforddiant o’r gwaelod i fyny: i feddygon teulu, byrddau iechyd a gynaecolegwyr. 

"Mae angen mwy o arian a mwy o arbenigedd ym maes endometriosis, er mwyn i ni allu cael y gofal sydd ei angen arnom.”

Yn ôl Endometriosis UK, Cymru sydd â’r amser aros cyfartalog hiraf yn y DU am ddiagnosis endometriosis, gyda phobl yn aros naw mlynedd ac 11 mis, ar gyfartaledd, i gael diagnosis swyddogol.

Mewn ymateb i’r pryderon, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod y ganolfan mewn perygl oherwydd prinder staff, capasiti cyfyngedig yn y theatrau llawdriniaeth a diffyg cymorth amlddisgyblaethol digonol.

Rhybuddiodd y bwrdd iechyd y gallai’r sefyllfa arwain at ganlyniadau ariannol a chlinigol sylweddol, yn ogystal â niwed i enw da’r sefydliad. Nododd hefyd yn ei gofrestr risg nad oedd cyllid ar gael i ddatrys y broblem.

Gan fod y ddeiseb wedi casglu dros 10,000 o lofnodion, bydd y mater yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, gan roi cyfle i godi pryderon ynghylch dyfodol y ganolfan a’r effaith bosibl ar bobl sy’n dibynnu ar ei gwasanaethau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.