'Pryderon difrifol' am ddiogelwch cleifion yn adran frys Ysbyty Glan Clwyd yn parhau
Mae "pryderon difrifol" am ddiogelwch cleifion yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych yn parhau, er bod arolygwyr wedi gweld gwelliannau ers eu harolygiad diwethaf ym mis Mai.
Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ailymweld â’r adran ym mis Awst, ar ôl codi pryderon am ddiogelwch cleifion rai misoedd ynghynt.
Yn ôl yr arolygwyr, roedd gwelliannau o ran llesiant ac ymgysylltiad staff, llif cleifion, trefniadau llywodraethu pediatrig, a rheoli meddyginiaethau ac offer.
Ond dywedodd yr arolygwyr fod heriau’n parhau o ran goruchwylio’r ystafell aros, lleihau oedi wrth gael mewnbwn arbenigol a sicrhau bod modd cynnal y gwelliannau diweddar.
Mae’r ymweliad diweddaraf yn rhan o waith monitro AGIC, ar ôl i'r adran achosion brys gael ei dynodi’n wasanaeth sydd angen ei wella’n sylweddol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i gleifion ac yn addo gwneud gwelliannau parhaol ar y safle ym Modelwyddan, sydd eisoes wedi bod yn destun craffu agos.
Amseroedd aros hir ac ardaloedd gorlawn
Cafodd yr arolygiad gwreiddiol ei gynnal dros dri diwrnod ym mis Mai 2026.
Fe wnaeth AGIC ganfod nad oedd cleifion â risgiau clinigol uchel bob amser yn cael eu symud yn ddigon cyflym i ardaloedd oedd yn cael eu monitro.
Doedd cleifion yn yr ardal aros ddim yn cael eu goruchwylio’n ddigonol, a doedden nhw ddim bob amser yn cael eu monitro’n rheolaidd na’n cael meddyginiaeth poen, bwyd a diod, cymorth i ddefnyddio’r toiled neu ddiweddariadau yn ystod cyfnodau hir o aros.
Cafodd AGIC fwy na 660 o ymatebion i'r arolwg gan gleifion, perthnasau a gofalwyr.
Roedd nifer o’r ymatebion yn disgrifio amseroedd aros hir ac ardaloedd gorlawn, yn ogystal â phryderon am breifatrwydd ac urddas.
Nid dyma’r tro cyntaf i bryderon gael eu codi am yr adran, oedd dan drefniadau gwasanaeth sydd angen ei wella’n sylweddol rhwng Mai 2022 ac Awst 2024.
Dywedodd AGIC nad oedd rhai o’r gwelliannau a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw wedi’u cynnal, a bod sawl problem hirdymor yn parhau.
Problemau adran plant
Fe wnaeth yr arolygwyr ganfod problemau diogelwch penodol yn ardal plant yr adran achosion brys.
Yn ôl yr arolygwyr, roedd adegau pan nad oedd aelod o staff yn bresennol pan oedd cleifion yno. Roedd pryderon hefyd am hyfforddiant pediatrig staff, trefniadau diogelwch, argaeledd offer brys a dogfennaeth diogelu.
Nodwyd gwendidau hefyd o ran meddyginiaethau ac offer, gyda chyfarpar wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio, ac eraill ar goll.
Er gwaethaf y pryderon, roedd cleifion yn gyson yn canmol staff yr adran, gan eu disgrifio fel rhai gofalgar, tosturiol a pharchus.
Mae'r arolygwyr yn dweud fod staff yn gweithio dan amgylchiadau eithriadol o heriol, ac roedd enghreifftiau o waith tîm cryf a gofal sy’n canolbwyntio ar y claf.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Arolygiaeth, Alun Jones, fod pobl sy’n mynd i adrannau achosion brys yn haeddu gofal "diogel, amserol ac urddasol".
"Canfu'r arolygiad hwn nad oedd gwelliannau a nodwyd yn flaenorol wedi cael eu cynnal a bod nifer o bryderon hirdymor yn amlwg o hyd," meddai.
"Mae'r ffaith bod y problemau hyn wedi'u nodi eto yn codi cwestiynau pwysig am effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar waith i nodi, rheoli a lleihau risg.
"Er bod cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud, bydd angen parhau i ganolbwyntio a sicrhau atebolrwydd er mwyn cynnal y gwelliannau hyn."
Ymddiheuriad bwrdd iechyd
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, bod y bwrdd yn "ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion hynny na chawsant y gofal maent yn ei haeddu."
Ychwanegodd: "Mae gwella gofal cleifion ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd ac mae'r holl gamau gweithredu sy'n ofynnol gan yr adroddiad arolygu bellach ar y gweill yn yr adran ac mewn mannau eraill yn yr ysbyty.
"Mae cydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys yn gweithio'n galed o dan bwysau uchel cyson ac rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwerthfawrogiad y cyhoedd o'r gofal y maent yn ei gynnig.
"Gwyddom fod materion systemig sylweddol a hirsefydledig sy'n cymhlethu'r pwysau mewn adran sy'n brysur yn gyson ac mae'n galonogol gweld bod AGIC wedi cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o ran cynorthwyo staff a mynd i'r afael â'r materion hynny, yn eu harolygiad dilynol.
"Rydym yn ymrwymedig i roi sicrwydd i AGIC a'r cyhoedd ein bod o ddifrif am wella profiadau pobl yn ein Hadrannau Achosion Brys trwy ymgorffori cynnydd i newid hirdymor a chynaliadwy."